Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | 1. Sylwebaeth Ysgrifenedig (1,500 o eiriau) | 25% |
Asesiad Semester | 2. Cyflwyniad Grwp | 35% |
Asesiad Semester | 3. Sylwebaeth Lafar Berfformiadol (cyfwerth a 2,000 o eiriau) | 40% |
Asesiad Ailsefyll | Os methir y modiwl oherwydd methiant i gyflwyno unrhyw elfen unigol or asesiad, neu oherwydd marc isel mewn unrhyw elfen unigol or asesiad, rhaid ail-gyflwynor gwaith hwnnw. Os fydd mwy nag un elfen wedii methu, rhaid ail-gyflwynor holl elfennau a fethwyd. |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr sy'n cyrraedd safon gyffredin fedru:
1. arddangos ymwybyddiaeth o ystod eang o ddigwyddiadau diwylliannol Cymreig
2. arddangos dealltwriaeth o rol a photensial y perfformiadol o fewn y diwylliant Cymreig
3. cymhwyso'r termau dadansoddiadol a gyflwynwyd yn ystod y modiwl wrth ddadansoddi digwyddiadau a chyfryngau diwylliannol
4. arddangos dealltwriaeth aeddfed o'r berthynas rhwng digwyddiadau diwylliannol a'u cyd-destun cymdeithasol
Fe fydd y modiwl hwn yn elfen bwysig yn natblygiad academaidd y cynllun Astudiaethau Perfformio, gan y bydd yn cyflwyno nifer o faterion allweddol er mwyn gwerthfawrogi nod a chyrhaeddiad gwaith perfformiadol arbrofol ac amgen. Un o elfennau amlycaf y modiwl fydd ystyriaeth o gyd-destun diwylliannol perfformiadau, a rhoddir sylw helaeth i wahanol agweddau ar ddiwylliant a hunaniaeth yng Nghymru er mwyn cyflwyno'r ystyriaeth hon. Gobeithir y bydd y hyn yn cyfoethogi profiad ymarferol y myfyrwyr mewn modiwlau megis AP20320 Dyfeisio Perfformio ac yn gosod sail ar gyfer yr astudiaeth fanwl o waith y cwmni perfformio AP30520 Brith Gof a gyflwynir yn ystod yr ail semester.
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd pob elfen o'r modiwl yn hyrwyddo cyfathrebu rhwng y myfyriwr unigol a'i gyd-fyfyrwyr ac â'r staff fydd yn cyflwyno'r deunydd. Bydd aseiniadau¿r modiwl hefyd yn rhoi cryn bwys ar gyfathrebu effeithiol, boed yn ysgrifenedig neu ar lafar |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Ni ddatblygir medrau penodol parthed cynllunio gyrfa yn y modiwl. Fel pob modiwl arall, disgwylir y bydd y modiwl hwn yn cyfrannu at ddatblygiad personol y myfyrwyr, ond ni roddir cyfarwyddyd pendant yn y modiwl hwn ynglyn ag unrhyw faterion yn ymwneud â chofnodi datblygiad personol. |
Datrys Problemau | Er nad asesir y medrau hyn yn uniongyrchol fel rhan o'r modiwl, fe fydd y modiwl hwn yn datblygu gallu'r myfyrwyr i ddatrys problemau wrth iddynt ddyfeisio ffyrdd o sylwebu ar rai o bynciau'r modiwl mewn ffordd ymarferol neu safle-benodol |
Gwaith Tim | Fe rydd y cyflwyniad grwp gyfle i'r myfyrwyr feithrin a datblygu'r medrau hynny sy'n angenrheidiol wrth gydweithio fel tîm: dosrannu gwaith, cyd-drafod, hunan-ddisgyblaeth a chyfraniad i gywaith a.y.b. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Er y bydd y gwahanol elfennau o'r asesiad ar gyfer y modiwl hwn yn rhoi cyfle a chyfrifoldeb ar y myfyrwyr i geisio gwella'u dysgu a'u perfformiad eu hunain, nid asesir y medrau hyn yn uniongyrchol fel rhan o'r modiwl. |
Sgiliau ymchwil | Fe fydd ymchwilio fel unigolion ac fel rhan o dîm cydweithredol yn rhan bwysig o'r modiwl, yn enwedig wrth i'r myfyrwyr baratoi eu haseiniadau ymarferol (y sylwebaeth lafar a'r cyflwyniad grwp). |
Technoleg Gwybodaeth | Ni fydd y medrau hyn yn rhan ganolog o'r modiwl, eithr disgwylir bod gan y myfyrwyr rywfaint o allu wrth brosesu geiriau erbyn y cyfnod hwn yn eu gyrfa golegol, ynghyd â'r gallu i baratoi delweddau pwrpasol ar gyfer cyflwyniad llafar. |
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5