Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | Darlith 1 x 2 awr yr wythnos |
Seminarau / Tiwtorialau | Seminar 1 x 1 awr yr wythnos |
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | 1 x Traethawd Ysgrifenedig 2500 o eiriau | 50% |
Asesiad Semester | 1 x Perfformiad o Etude 20 munud | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd Ysgrifenedig: rhaid ail-gyflwynor gwaith a fethwyd: gosodir fideo arall ar gyfer rheini syn ail-sefyll Perfformiad o Etude: rhaid ail-gyflwynor gwaith a fethwyd, ond fel unigolyn. Fe fydd rhaid ir perfformiad parhau 7 munud, mewn man arbennig, rhoddedig yn Aberystwyth gyda thema/strwythur rhoddedig sydd yn gysylltiedig a gwaith Brith Gof. |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
1. arddangos dealltwriaeth o'r dulliau gweithredu a'r gwahanol ymarferion dyfeisio/cyflwyno sy'n gysylliedig a gwaith Brith Gof
2. cydweithio'n greadigol a deallus a'u cydfyfywyr i baratoi Etude 20 munud o hyd
3. sylwebu'n gryno a deallus ar berfformiad mewn traethawd ysgrifenedig
4. defnyddio sgiliau perfformiadol i esbonio deunydd cysyniadol
5. arddangos dealltwriaeth o bwysigrwydd cyd-destun cymdeithasol a diwylliannol a'u heffaith ar ffurf a ffwythiant perfformiad
Honnir mai Brith Gof yw un o'r prif gwmniau theatr yng Nghymru yn ystod ail hanner y ganrif ddiwethaf: rydym yn awyddus i sicrhau bod y myfyrwyr yn medru gwerthfawrogi pwysigrwydd cyfraniad Brith Gof i'r theatr Gymreig, yn ogystal a'u cyfraniad i feirniadaeth a theori perfformio yn gyffredinol. Mae gan y staff sydd yn cynnal y modiwl hwn ddiddordeb a phroffil ymchwil eisoes mewn perthynas a Brith Gof, a gobeithir y bydd llyfr ar Brith Gof yn deillio o'r gwaith a wneir ganddynt wrth baratoi a chyflwyno'r modiwl hwn o fewn y dair mlynedd nesaf. Fe fydd y modiwl hwn hefyd yn ehangu a datblygu'r wybodaeth a gyflwynwyd mewn modiwlau blaenorol, yn enwedig DD23420 a DD24020.
Bwriad y modiwl hwn yw i gyflwyno hanes a dadansoddiad manwl o waith Brith Gof, yn cynnwys hanes blaenorol a safbwyntiau beirniadol o'r gwaith yn ystod ei ddatblygiad a'i ddiddymiad. Cyflwynir nifer o gyd-destunau sydd wedi cael eu datblygu a'u prosesu gan Brith Gof i ymchwilio'r goblygiadau cymdeithasol, diwylliannol ag amgylchfydol yn y cyd-destunau hynny a'u heffaith ar natur, ffurf, ffwythiant a gosodiad eu gwaith
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Mae¿n amlwg y bydd ymdrech i gyflwyno trafodaeth feirniadol trwy gyfrwng dulliau ac ymarferion newydd yn datblygu medrau cyfathrebu¿r myfyrwyr, a hynny ar lafar yn y sesiynau dysgu, yn ysgrifenedig yn y traethawd ac yn gorfforol ymarferol yn yr étude. |
Datrys Problemau | Datblygir y medrau hyn wrth i'r myfyrwyr geisio cymhwyso'u dealltwriaeth o gynyrchiadau ac ymarferion dyfeisio Brith Gof er mwyn paratoi eu gwaith academaidd ac ymarferol eu hunain. Er nad asesir y gallu i ddatrys problemau yn uniongyrchol fel rhan o'r modiwl, fe fydd y medrau hyn yn allweddol bwysig i lwyddiant y myfywyr o safbwynt deallusol a chreadigol. |
Gwaith Tim | Datblygir y medrau hyn yn uniongyrchol yn y modiwl. Fe fydd yr étude ymarferol yn canolbwyntio ar ddatblygu a gwreiddio gwaith tîm y myfyrwyr. At hynny, fe sylwir o'r rhestr ddarlithoedd fod trafodaeth o waith ensemble a gwaith tîm yn rhan eang o gynnwys y modiwl hwn. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Er i aseiniadau'r modiwl gael eu llunio er mwyn helpu'r myfyrwyr i ddatblygu eu hymateb o'r naill asesiad i'r llall, nid asesir y medrau hyn yn uniongyrchol yn y modiwl. |
Sgiliau ymchwil | Datblygir y medrau hyn wrth ysgrifennu'r traethawd, ac wrth baratoi ar gyfer y darlithoedd a'r étude ymarferol |
Technoleg Gwybodaeth | Ni ddatblygir y medrau hyn yn uniongyrchol yn y modiwl: er y croesewir defnydd o dechnegau technoleg gwybodaeth yn yr étude ymarferol, nid oes lle yn y modiwl i gynnig hyfforddiant ffurfiol i fyfyrwyr yn y mater hwn. |
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6