Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Sesiwn Ymarferol | Sesiwn ymarferol 1 x 2 awr yr wythnos |
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | 1 Cyflwyniad Unigol Ymarferol | 40% |
Asesiad Semester | 2 Cofnod Ysgrifenedig (3,000 o eiriau) | 60% |
Asesiad Ailsefyll | Os methir y modiwl oherwydd methiant i gyflwyno unrhyw elfen unigol or asesiad, neu oherwydd marc isel mewn unrhyw elfen unigol or asesiad, rhaid ail-gyflwynor gwaith hwnnw. Os fydd mwy nag un elfen wedii methu, rhaid ail-gyflwynor holl elfennau a fethwyd. Os methir yr elfen o waith ymarferol mewn grwp, disgwylir ir myfyriwr baratoi cyflwyniad unigol o 15 munud. |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
arddangos dealltwriaeth o egwyddorion System Ymdrech Rudolf Laban
arddangos dealltwriaeth o eirfa'r System Ymdrech
arddangos gallu i gymhwyso'r eirfa gorfforol er mwyn deall agweddau o'u hunain a phobl eraill
arddangos ymwybyddiaeth o strwythur y corff, ynghyd a'r cydblethiad rhwng y corff a chyflwr emosiynol yr unigolyn
arddangos gallu i ddefnyddio'r 'Ymdrechion' i ddyfeisio, hwyluso a newid gwaith creadigol
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Elfen bwysig o'r modiwl fydd y gallu i adrodd ar yr hyn y mae'r unigolyn wedi'i weld ac i gadarnhau eu profiad gydag eraill. Bydd y myfyrwyr yn dysgu sut y mae'r corff yn cyfathrebu heb eiriau a sut mae'r unigolyn yn ymateb i gyflyrau ac amgylchiadau gwahanol a'r ffordd rydym yn effeithio ar bobl eraill. Elfen hanfodol o'r gwaith hwn yw'r gallu i ddeall yr effeithiau a'r oblygiadau sy'n canlyn ein gweithredoedd corfforol yn ogystal â'n geiriau a'n hiaith. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Er bod y gallu i ddeall effaith y corff mewn unrhyw sefyllfa gyda phobl eraill yn werthfawr iawn, ni roddir unrhyw gyfarwyddyd penodol ynglyn â datblygiad personol a chynllunio gyrfa yn y modiwl. |
Datrys Problemau | Wrth ddysgu'r system ddadansoddi hon bydd y myfyrwyr yn cymhwyso damcaniaeth ac ymarfer ac yn gweithio i ddefnyddio geirfa Laban i newid sefyllfaoedd a datrys problemau creadigol |
Gwaith Tim | Tra bod y modiwl hwn yn pwysleisio taith bersonol yr unigolyn bydd trafod gyda gweddill y grwp yn rhan o bob sesiwn, ac wrth gwrs yn rhan allweddol bwysig o'r cyflwyniad Grwp. Bydd gwrando, edrych a derbyn mewnbwn y grwp yn hanfodol. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Pwrpas y modiwl hwn fydd agor posibiliadau newydd i'r myfyrwyr ynglyn â ffyrdd amgen o greu a deall eu gwaith ymarferol. Rhydd y modiwl gyflwyniad i dechneg corfforol a fydd yn rhoi i'r myfyrwyr ymwybyddiaeth ychwanegol o'u hunain, a disgwylir y bydd hyn yn cyfrannu yn uniongyrchol at safon eu gwaith. Fodd bynnag, nid asesir yr elfen hon yn benodol ac uniongyrchol yn ystod y modiwl |
Sgiliau ymchwil | Fe fydd ymchwil personol yn sail i waith y modiwl. Disgwylir i'r myfyrwyr arsylwi a dadansoddi datblygiad eu proses mewnol a'u hymwybyddiaeth unigol, yn ogystal â'u goblygiadau at bobl eraill. Cryfheir gwaith yr unigolyn yn sylweddol yn ystod y modiwl wrth iddynt ddod â dealltwriaeth ddyfnach i'r gwaith o'u hymchwil personol |
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6