Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | 1. Tasg Ysgrifenedig Y Dudalen fel Safle - Palimpsest a fydd yn defnyddio dim mwy na 2 ddarn o bapur neu ddefnydd A3 | 30% |
Asesiad Semester | 2. Tasg Destunol Y Safle fel Tudalen - darn o destun yn sail i ddigwyddiad 15 munud wedii leoli mewn safle neilltuol | 35% |
Asesiad Semester | 3. Tasg Destunol Y Corff fel Safle a Thudalen - darn o destun yn sail i ddigwyddiad 15 munud wedii greu mewn ymateb i weithgarwch corfforol mewn safle neilltuol | 35% |
Asesiad Ailsefyll | Os methir y modiwl oherwydd methiant i gyflwyno unrhyw elfen unigol or asesiad, neu oherwydd marc isel mewn unrhyw elfen unigol or asesiad, rhaid ail-gyflwynor gwaith hwnnw. Os fydd mwy nag un elfen wedii methu, rhaid ail-gyflwynor holl elfennau a fethwyd. |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr sy'n cyrraedd safon gyffredin fedru:
1. arddangos gallu i ddatblygu nifer o wahanol fathau o waith ysgrifenedig mewn gwahanol gyd-destunau creadigol a dadansoddiadol
2. arddangos gallu i ddefnyddio technegau ysgrifennu a fydd yn cyfoethogi a chymhlethu prosesau amgyffrediadol y darllenydd
3. arddangos gallu i gymhwyso'r dulliau ysgrifennu a gyflwynwyd ar y modiwl wrth greu darn ysgrifenedig mewn safle arbennig
4. arddangos gallu i gymhwyso'r dulliau ysgrifennu a gyflwynwyd ar y modiwl wrth ymateb i ddarn o berfformiad corfforol byw
Nod y cynnig hwn yw i roi cyfle i'r myfyrwyr ystyried y gwahanol fathau o berthynas a all fodoli rhwng ysgrifennu a pherfformio. Fel sy'n gyffredin mewn Astudiaethau Perfformio fel pwnc ledled y byd, fe fydd y modiwl yn rhoi pwyslais ar gyplysu ysgrifennu beirniadol a chreadigol, ac yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr arbrofi gyda gwahanol ddulliau a moddau o fynegiant ysgrifenedig. Fe fydd y modiwl hwn yn asio'n bwrpasol iawn gyda'r modiwlau eraill a gynigir yn y radd Astudiaethau Perfformio am ei fod yn rannu'r un syniadaeth gyffredinol a'r un prosesau dadansoddiadol a chreadigol, eithr trwy dulliau gwahanol.
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd pob elfen o'r modiwl yn hyrwyddo datblygu ac ymarfer sgiliau cyfathrebu trwy gyfrwng ysgrifennu creadigol a dadansoddiadol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Medrau 'Ysgrifennu Perfformiadol' |
Datrys Problemau | Bydd elfen o ddatrys problemau creadigol yn rhan o'r modiwl wrth i'r myfyrwyr geisio cymhwyso'r wybodaeth a'r sgiliau ysgrifenedig a ddatblygir ganddynt amgylchiadau a chyd-destunau newydd |
Gwaith Tim | Ni fydd y modiwl yn canolbwyntio¿n benodol ar waith tîm, ond ynhytrach ar ddatblygu sgiliau ac ymateb unigol ar ran y myfyrwyr. Fe fydd cyfle i'r myfyrwyr gyd-drafod eu gwaith yn y sesiynau trafod ffurfiol, ond nid asesir gallu'r myfyrwyr i weithio fel tîm yn ystod y modiwl. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Rhydd trefn aseiniadau'r modiwl gyfle i'r myfyrwyr ddatblygu eu gallu i ysgrifennu'n greadigol mewn cyd-destun perfformiadol. Ychwanegir elfen gysyniadol newydd at bob aseiniad yn ei dro; eithr nid asesir gallu'r myfyrwyr i wella'u dysgu a'u perfformiad eu hunain yn ystod y modiwl |
Sgiliau ymchwil | Fe fydd ymchwil personol yn bwysig wrth i'r myfyrwyr ddewis a datblygu deunydd gogyfer y tasgau ysgrifenedig. Fodd bynnag, ni roddir pwyslais neilltuol ar ddatblygu'r sgiliau hynny fel than o asesiad y modiwl. |
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6