Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Ar ol cwblhau'r modiwl, gobeithir y bydd myfyrwyr:-
- wedi cael gwybodaeth eang o bynciau gwyddonol cyfoes mewn ystod eang o ddisgyblaethau
- yn gallu cyfleu pynciau gwyddonol yn fanwl ac yn eglur, ar lafar ac yn ysgrifenedig
- yn ymwybodol o ffynonellau gwybodaeth perthnasol
- yn hyderus ac yn fedrus wrth ddefnyddio'r Gymraeg i drafod y gwyddorau
- yn medru asesu pynciau allweddol sydd ynghlwm wrth achosion ac effeithiau newid hinsawdd byd-eang ac effeithiau technolegau modern (e.e. technoleg addasu genetig, datblygiadau mewn cyfrifiadureg) ar ddynolryw ac ar yr amgylchedd. Mae'r meysydd gwyddonol hyn yn ddadleuol ac fe ddisgwylir i fyfyrwyr ddangos dealltwriaeth o sail wyddonol y dadleuon sy'n cael eu cyflwyno gan gefnogwyr a chan wrthwynebwyr y technolegau hyn.
Nod
Mae hwn yn fodiwl aml-ddisgyblaethol, wedi'r ddysgu drwy'r Gymraeg, sy'r cyfuno nifer o feysydd gwyddonol amserol gan ganolbwyntio ar dair thema: Y Ddaear a'r Bydysawd, Effaith Dyn ar yr Amgylchedd ac Effaith Datblygiadau Technolegol Modern.