Cod y Modiwl
BG32110
Teitl y Modiwl
CWRS MAES ECOLEG DDAEAROL, IWERDDON
Blwyddyn Academaidd
2008/2009
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Dr Gareth W Griffith
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
 

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Eraill Gwaith maes: 6.5 diwrnod (mis Medi)
Darlithoedd 6 Hours.
Seminarau / Tiwtorialau 1 x seminar 4 awr; 6 x dosbarth ymarferol 4 awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Traethawd estynedig ac arholiad llafar.  100%
Asesiad Semester Gwaith cwrs 100% (adroddiadau ar brosiectau dosbarth a phrosiectau unigol, casgliad herbariwm, cyfres o brofion byr, cyflwyniad seminar ac asesiad o nodlyfr maes). Yr herbariwm ar nodlyfr maes i gael eu cyflwyno ar ddiwedd y cwrs. Adroddiadau prosiect i gael eu cyflwyn gyda sesiwn seminar yn mis Hydref erbyn dechrau semester 1.   100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Ar ol dilyn y modiwl bydd myfyrwyr yn gallu:

Nod

Prif amcan y modiwl hwn yw cyflwyno i fyfyrwyr brif brosesau ecolegol planhigion, anifeiliaid a dadelfeniad o fewn cymunedau calchfaen ar y Burren. Bydd y modiwl hefyd yn ystyried sut mae llystyfiant a phriddoedd wedi datblygu ers diwedd yr Oes Ia Dyfneintaidd, ryw 10,000 o flynyddoedd yn ol. Archwilir cymunedau planhigion ac anifeiliaid i weld sut y gellir ymestyn y system Dosbarthiad Llystyfiant Cenedlaethol (National Vegetation Classification, NVC) ar gyfer Prydain Fawr i ddiffinio cymunedau planhigion yn Iwerddon. Archwilir nifer o fathau o olyniaeth ecolegol a chynhyrchir modelau i ddangos cydberthynasau rhwng y cymunedau gwahanol ac oddi mewn iddynt, yn ogystal a'r paramedrau microamgylcheddol cysylltiedig. Ystyrir hefyd y gwahanol ffyrdd y mae dulliau ffermio modern wedi newid y tirwedd, a'r strategaethau mwyaf priodol ar gyfer diogelu'r enghreifftiau gorau o dirweddau Gwyddelig goroesol ynghyd a'r hystod unigryw o gydberthynasau planhigol. Bydd casglu a dadansoddi data o'r maes, a'r cynnwys mewn cyfres o adroddiadau a fydd yn cael eu hasesu, yn rhan fawr o'r modiwl. Dysgir y modiwl yng Nghanolfan Maes Prifysgol Galway, Carron, Co. Clare.

Elfen fawr o'r modiwl fydd archwilio'r ffactorau hynny sy'r cyfyngu ar ledaeniad detholiad o blanhigion uwch, anifeiliaid, mwsoglau, cennau a ffyngau. Bydd hyn yn cynnwys astudiaeth ar ffactorau microhinsoddol, priodweddau isbriddoedd a rhyngweithiadau troffig. Bydd yr olaf o'r rhain yn ymdrin a chystadleuaeth mewn perthynas a chystadleuaeth am olau, d'r a maetholion.

Cynnwys

Rhestr Ddarllen

Testun A Argymhellwyd
Grime, J.P., Hodgson, J.G. & Hunt, R. (1996) Comparative plant ecology: a functional approach to common British species. London: Chapman & Hall Chwilio Primo Kent, M. & Coker, P. (1992) Vegetation description and analysis. London: Belhaven Press. Chwilio Primo Nelson, E.C. (1991) The Burren: a companion to the wildflowers of an Irish limestone wilderness Boethius Press & The Conservancy of the Burren Chwilio Primo Rodwell, J.S. ( (1991-9) British Plant Communities Vols. 1 and 3 Cambridge University Press Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6