Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 14 Hours. |
Seminarau / Tiwtorialau | 6 Hours. |
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 1.5 Awr Arholiad ailsefyll (1.5 awr) | 40% |
Arholiad Semester | 1.5 Awr Arholiad ddiwedd semester: Cwestiwn traethawd | 40% |
Asesiad Ailsefyll | Ailgyflwyno gwaith cwrs sydd wedi methu | 60% |
Asesiad Semester | Ymarfer gwe (i gael ei farcio yn electronig) | 20% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad llafar a chrynodeb cynhadledd (15 munud) | 20% |
Asesiad Semester | Datganiadau amgylcheddol | 20% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
bydd gan fyfyrwyr wybodaeth eang am bynciau sy'r ymwneud ag effaith dyn ar y blaned (yn lleol ac ar raddfa fyd-eang)
bydd myfyrwyr yn ymwybodol o (ddeddfwriaeth) gyfrifoldeb amgylcheddol
bydd myfyrwyr yn gallu cynnig datrysiadau i wella effeithlonrwydd amgylcheddol ar lefel lleol (yn enwedig yn amgylchedd busnes)
bydd myfyrwyr yn gallu ymdrin a chyllidebau carbon, sylweddoli cyfrifoldeb amgylcheddol a chynnig dulliau o leihau a gwrthbwyso allyriannau carbon.
bydd myfyrwyr yn hyderus wrth gyflwyno pynciau gwyddonol yn gywir ac yn eglur, a hynny ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Mae'r modiwl yn gosod sylfeini generig rhagorol ym maes effeithlonrwydd amgylcheddol, a hynny'r berthnasol i nifer o gynlluniau gradd lefel Meistr o fewn cyfadrannau'r Celfyddydau a'r Gwyddorau. Agwedd bwysig arall yw'r ffaith ei fod hefyd yn ymateb i ymrwymiad y Llywodraeth i `wyrddio? cwricwlwm y prifysgolion.
Mae hwn yn fodiwl newydd sy'r ymdrin a chyfrifoldeb amgylcheddol, effaith dyn ar y blaned a'r angen cynyddol i fyw'r fwy cynaliadwy. Drwy ddeunydd darlithoedd sy'r esbonio'r egwyddorion gwyddonol sylfaenol, a thrwy weithdai rhyngweithiol, bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gloriannu a chyfuno tystiolaeth o nifer o ddulliau arbrofol a dadansoddol. Yn ogystal a chyflwyno gwahanol bynciau gwyddonol i fyfyrwyr, bydd y modiwl hwn yn rhoi iddynt fwy o hyder wrth gyflwyno pynciau gwyddonol yn gytbwys ac yn gywir.
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd gweithgareddau gweithdy yn datblygu lefel uchel o sgiliau cyfathrebu yn y myfyrwyr sy¿n astudio¿r modiwl hwn. Trafodir pynciau ar ffurf dadleuon gwyddonol. Bydd cyfranwyr y modiwl yn cynnig nifer o ddadleuon gwahanol ar gyfer trafodaeth a disgwylir i fyfyrwyr ddatblygu ac amddiffyn eu safbwyntiau eu hunain mewn trafodaethau gr¿p. Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno aseiniadau erbyn dyddiadau penodol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Mae¿r modiwl yn rhoi i fyfyrwyr sgiliau galwedigaethol rhagorol sy¿n berthnasol iawn i¿r gweithle. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am weithrediadau effeithlonrwydd amgylcheddol a gwybodaeth am gynlluniau cyllido i hybu cynaladwyedd amgylcheddol. Bydd myfyrwyr hefyd yn datblygu sgiliau cyfathrebu a fyddai¿n werthfawr iawn mewn nifer o yrfaoedd posibl o fewn Cymru. |
Datrys Problemau | Mae¿r ymarfer gwe `cyllideb carbon¿ yn rhoi taenlen (`spreadsheet¿) i fyfyrwyr er mwyn cyfrifo¿r hyn mae defnydd egni yn ei gynrychioli o ran allyriannau carbon a faint o goed y byddai eu hangen er mwyn neilltuo¿r carbon hwn. Cedwir deunydd penodol yn Blackboard a bydd gwybodaeth gyffredinol ar gael yn www.aber.ac.uk/ensus/. |
Gwaith Tim | Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn grwpiau trafodaeth yn ystod y sesiynau gweithdy. Byddant hefyd yn cyflwyno cyflwyniad llafar 15-munud (gan gynnwys cwestiynau). Bydd y cyflwyniadau hyn yn cael eu rheoli fel cynhadledd, a bydd myfyrwyr yn cyflwyno crynodeb o¿u cyflwyniad erbyn dyddiad penodol. Bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi¿n fewnol ar y wefan. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Mae¿r modiwl yn galw am hunanddysgu gan y myfyriwr. Bydd rhaid i fyfyrwyr reoli gwybodaeth, data ac amser yn effeithiol er mwyn cyflawni gofynion yr asesiad. |
Rhifedd | Ymarfer gwe `cyllideb carbon¿ (gweler 1 uchod). |
Sgiliau ymchwil | Defnyddir gweithdy i ddatblygu sgiliau ysgrifennu cryno, terminoleg, a chynhyrchu datganiadau amgylcheddol cywir. |
Technoleg Gwybodaeth | Ymarfer gwe `cyllideb carbon¿ (gweler 1 uchod). |
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7