Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | |
Seminarau / Tiwtorialau |
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | ARHOLIAD CAEEDIG AC UNRHYW WAITH YSGRIFENEDIG SYDD AR GOLL | |
Arholiad Semester | 2 Awr ARHOLIAD YSGRIFENEDIG | 60% |
Asesiad Semester | 2 X TRAETHAWD O 2,500 O EIRIAU | 40% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Disgrifio ac asesu datblygiadau modern ym maes meddygaeth a gwasanaethau iechyd yn Ewrop a gogledd America
Adolygu'n feirniadol gyd-destunau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol y datblygiadau meddygol a'r gwasanaethau iechyd
Gwerthuso effaith meddygaeth wyddonol ar fywydau pobl gyffredin
Dadansoddi tystiolaeth wreiddiol mewn ffordd feirniadol a deallus
Trafod dadleuon hanesyddol trwy waith ysgrifenedig a llafar
Gweithio'n annibynnol ac fel rhan o grwp
Mae'r cwrs hwn yn cyflwyno myfyrwyr i hanes gwleidyddol, cymdeithasol a deallusol meddygaeth a gofal-iechyd gan ddilyn eu datblygiad yng Ngorllewin Ewrop ac America yn y cyfnod modern. Byddant yn archwilio sut y defnyddiodd meddygon confensiynol syniadau'r Dadeni o reswm, rhesymoledd a'r gwir gwyddonol yn eu brwydrau nhw gyda chyfundrefnau meddygol eraill, a sut yr enillodd y gyfundrefn hon gydnabyddiaeth swyddogol ac uchafiaeth wleidyddol a chymdeithasol. O fewn y modiwl hwn, bydd myfyrwyr yn ennill dealltwriaeth ehangach o ddatblygiad y proffesiwn meddygol a gwybodaeth feddygol yng nghyd-destun twf y genedl-wladwriaeth fodern a diwydianmu a threfoli Prydain
Bydd y modiwl yn llenwi bwlch pwysig oddi fewn maes Hanes drwy'r Gymraeg yn Rhan Dau
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Asesir sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig trwy arholiad a dau draethawd. Bydd y tiwtorial traethawd yn nodi problemau a rhoddir cyngor addas i¿r myfyrwyr. Datblygir sgiliau cyfathrebu ar lafar trwy¿r trafodaethau seminar. Disgwylir y myfyrwyr i wneud cyflwyniadau yn y seminarau hefyd. Ni asesir y sgiliau llafar hyn. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd y modiwl hwn yn datblygu sgiliau ysgrifenedig a llafar. Bydd yn helpu¿r myfyrwyr i ddatblygu sgiliau pwysig, gan gynnwys gwneud ymchwil, asesu gwybodaeth ac ysgrifennu mewn ffordd ffurfiol. Ni asesir y sgiliau hyn. |
Datrys Problemau | Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem. |
Gwaith Tim | Bydd y myfyrwyr yn gweithio gyda¿i gilydd yn y seminarau trwy drafod testunau sydd dan sylw. Ni asesir y medr hwn. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd y myfyrwyr yn gyfrifol am eu gwaith eu hunain. Bydd disgwyl i¿r myfyrwyr baratoi cyn seminarau, cyfrannu yn y seminarau, gwneud ymchwil ar gyfer y traethodau, ac ysgrifennu a chyflwyno traethodau yn brydlon cyn y dyddiad cau. Ni asesir y medrau hyn yn ffurfiol. |
Rhifedd | Cyflwynir y myfyrwyr i rai ystadegau sylfaenol yn y darlithiau, gan gynnwys cyfraddau marwolaethau, ac asesir y medrau hyn fel rhan o¿r traethodau |
Sgiliau ymchwil | Datblygir hyn trwy¿r ymchwil bydd y myfyrwyr yn gwneud cyn y seminarau a thrwy¿r traethodau. Asesir y medrau hyn trwy¿r traethodau. |
Technoleg Gwybodaeth | Anogir y myfyrwyr i chwilio am ddeunydd ar y we ac oddi ar CD-Rom. Hefyd, anogir y myfyrwyr i ddefnyddio prosesydd geiriau wrth greu eu gwaith.. |
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6