Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 11 Hours. |
Seminarau / Tiwtorialau | 11 Hours. Seminarau. |
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 2 Awr | 70% |
Asesiad Semester | 2 Awr Traethodau: 3,000 o eiriau | 30% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Ar o^l dilyn y modiwl hwn:
1. Byddwch yn gallu darllen a deall un o destunau pwysicaf Cymraeg Canol yn yr iaith wreiddiol.
2. Byddwch yn gallu trafod y testunau hyn mewn cyd-destun canoloesol.
3. Byddwch yn gallu trafod y testunau pwysig hyn mewn cyd-destun llenyddol, e.e.
technegau naratif, cymeriadaeth, syniadaeth, adeiladwaith.
4. Byddwch yn gyfarwydd a^ nifer o agweddau ar hanes ysgolheictod ar y testunau hyn.
Canolbwyntir ar agweddau llenyddol y Pedeir Keinc, eu harddull, eu hadeiladwaith, cymeriadaeth, technegau naratif, ayb. Hefyd trafodir syniadau'r prif ysgolheigion yn y maes hwn. Yn y dosbarthiadau testunol rhoddir sylw arbennig i stwythur un o'r ceinciau a gwneir cymhariaeth rhyngddi a'r ceinciau eraill.
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6