| Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
|---|---|
| Darlithoedd | 11 Hours. |
| Seminarau / Tiwtorialau | 11 Hours. Seminarau. dosbarth testunol |
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
|---|---|---|
| Arholiad Semester | 2 Awr | 70% |
| Asesiad Semester | Traethodau: 3,000 o eiriau | 30% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Byddwch yn gyfarwydd a^'r prif fathau o gerddi a gyfansoddwyd gan y Gogynfeirdd, ac a^'r beirdd pwysicaf.
2. Bydd gennych wybodaeth sylfaenol am gefndir hanesyddol a diwylliannol y cerddi, yn enwedig am fywyd y llys yn y ddeuddegfed a'r drydedd ganrif ar ddeg.
3. Bydd gennych ddealltwriaeth o natur a phwrpas gwleidyddol y canu mawl seciwlar, ac o amcanion canu crefyddol y cyfnod, ac fe fyddwch yn medru lleoli'r genres hyn yn nghyd-destun llenyddiaeth Ewrop.
4. Byddwch yn medru darllen detholiad o destunau yn y gwreiddiol (gyda chymorth nodiadau), ac yn medru trosi i Gymraeg Modern rai darnau dethol.
5. Byddwch wedi dysgu sut i ddadansoddi detholiad o gerddi astrus o safbwynt eu hiaith a'u mydr a'u harddull, ac fe fyddwch yn gallu trafod eu gwerth artistig.
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6