Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Wrth gwblhau'r modiwl hwn dylai myfyrwyr fedru:
- deall y prosesau sydd yn llunio daearyddiaeth bersonol ac agosatrwydd at gymuned, diwylliant, ardal eol a chenedl
- datblygu dealltwriaeth o'r gwaith a wnaethpwyd gan ddaearyddwyr a gwyddonwyr cymdeithasol eraill yn y maes hwn
- darllen critical, gwerthuso gwybodaeth o ffynonellau gwahanol a chyfathrebu syniadau
Disgrifiad cryno
Pwrpas y modiwl yw i gynnig cwrs rhagarweiniol mewn daearyddiaeth ddynol sydd yn archwilio pwysigrwydd agosatrwydd at le ar ddwy raddfa. Yn gyntaf, o safbwynt unigolyn sydd yn adweithio i'r byd mewn ffyrdd cymhleth, ac yn ail, o safbwynt sydd yn clymu unigolion i sefydliadau cymdeithasol ehangach y genedl. Bydd y themau hyn yn cael eu trafod ar raddfeydd gwahanol a chydag amrywiaeth o esiamplau penodol.
Nod
Un o themau pwysicaf daearyddiaeth gyfoes yw'r ymdrech i ddeall pwysigrwydd lle mewn cyd-destun unigolion, cymunedau a chymdeithasau. Wedi'r cyflwyniad, bydd darlithoedd yn cael eu cyflwyno ar y themau canlynol:
Lla chenedl
- Lle a chenedligrwydd
- Cenedlaetholdeb ym Mhrydain
- Cenedlaetholdeb a hunaniaeth yn Nwyrain Ewrop
- Cenedlaetholdeb a hunaniaeth yn y Byd Newydd
Hunaniaeth lle
- Pobl, mudo, bydoli a lle
- Cysyniadau yn ymwneud a lle
- Unigrywedd lle: hunaniaeth a bywgraffiad
- Lle, gwleidyddiaeth, cynllunio a chymuned
LLeoedd ar yr ymylon
- Menywod mewn gofod sy'n cael ei ddominyddu gan ddynion
- Daearyddiaeth symbiolaidd a hil
- Daaryddiaeth anabledd: problemau ffisegol a chymdeithasol
- Daearyddiaeth gwaharddiad