Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Eraill | Dysgir y modiwl ar chwe diwrnod maes dros dri phenwythnos. Bydd yn cyfuno elfennau darlith, seminarau a dosbarthiadau ymarferol. |
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Ailsefyll oherwydd peidio a chyflwyno gawaith ynghlwm wrth ddiwrnodau maes a gwblhawyd, cwblhaur elfen(nau) sydd ar goll. Ailsefyll oherwydd peidio a chwblhau diwrnod maes neu absenoldeb o ddiwrnod maes, trwy gwblhau traethawd 1500 o eiriau ar bwnc syn gysylltiedig a themar diwrnod maes a gollwyd. Ailsefyll elfennau a fethwyd. | 100% |
Asesiad Semester | Cyflwyniadau llafar grwp. Yn seiledig ar waith prosiect a wnaed ar bob un or diwrnodau maes. Cyfrifir y marc terfynol ar sail cymedr y marciau a geir am bob un or chwe chyflwyniad. | 20% |
Asesiad Semester | Bydd gofyn i fyfyrwir gyflwyno adroddiad 2500 o eiriau ar brosiect unigol syn ymhelaethu ar thema drafodir ar un or diwrnodau maes, trwy ddefynyddio data eilaidd, deunydd ar y We a gwaith darllen cefndir perthnasol. Penderfynir ar pwnc y prosiect gan myfyrwir ar y cyd ar staff darlithio. Adroddiad ar brosiect estynedyg. | 50% |
Asesiad Semester | Bydd gofyn i fyfyrwyr gyflwyno 6 adroddiad maes yn cryno, un ar bob un or diwrnodau maes. Bydd pob adroddiad maes yn cyfrannu ir marc terfynol. Adroddiadau Maes. | 30% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Wrth gwblhau'r modiwl hwn dylai myfyrwyr fedru:
Amcan y modiwl hwn yw: (1) Cyflwyno a datblygu egwyddorion ac arferion technegau allweddol gwaith maes yn nisgyblaethau daearyddiaeth, astudiaethau amgylcheddol ac astudiaethau defnyddio tir; (2) cynnig profiad o ddefnyddio amryw ddulliau a thechnegau gwaith maes er mwyn casglu gwybodaeth mew perthynas a daearyddiaeth, yr amgylchedd a defnyddio tir; (3) rhoi hyfforddiant wrth ddadansoddi a chyflwyno data; (4) rhoi hwb i allu myfyrwyr i ddehongli data maes; (5) cynnig profiad a hyfforddiant wrth roi cyflwyniadau ar lafar ac ar bapur.
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4