Mae'r modiwl tiwtorial Lefel 2 yn orfodol i fyfyrwyr yr ail flwyddyn sy'n gwneud cynlluniau gradd Anrhydedd Sengl a Chyfun mewn Daearyddiaeth. Ni all myfyrwyr eraill ei gymryd ond trwy drefniant arbennig gyda Chydgysylltydd y Modiwl. Y mae'n fodiwl sy'n darparu sail i gyswllt arolygol clos a rheolaidd rhwng myfyrwyr a staff trwy gydol y flwyddyn.
Y mae iddo dri nod penodol. Yn gyntaf, gan ei fod yn ffynhonnell cyswllt clos, fe fydd yn ymdrin a phroblemau cyffredinol bugeiliol ac academaidd sy'n wynebu'r myfyrwyr yn ystod y flwyddyn. Yn ail, cynlluniwyd pob Modiwl Tiwtorial Daearyddiaeth yn ol maes llafur academaidd annibynnol. Yn Lefel 2 bydd hyn yn canolbwyntio ar theori daearyddiaeth a daearyddiaeth ymarferol ac ar feysydd trafod cyfoes mewn Daearyddiaeth Ffisegol a Daearyddiaeth Ddynol. Yn drydydd, bydd yn ymwneud a maes llafur ddiffiniedig o sgiliau astudio, a fydd yn galluogi myfyrwyr i ymdrin yn fwy effeithol a gofynion astudiaeth academaidd, i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy, ac yn eu galluogi i fanteisio yn llawnach ar y posibiliadau a gynigir gan ein rhaglen.
GWAITH CWRS ACADEMAIDD
Bydd gwaith y cwrs academaidd ym Modiwl Tiwtorial Lefel 2 yn ymdrin a theori Daearyddiaeth a Daearyddiaethymarferol, yn ogystal a meysydd trafod cyfoes o fewn i'r pwnc. Yn y naill achos a'r llall, bydd y dosbarthiadau tiwtorial yndatblygu'r themau hyn o fewn i gyd-destun Daearyddiaeth Ffisegol neu Ddaearyddiaeth Ddynol, fel sy'n briodol i'r grwptiwtorial. Caiff y gwaith ei ddatblygu trwy gyfrwng trafodaeth a thraethodau tiwtorial, fel a nodir isod.
SGILIAU ASTUDIO
Bydd y sgiliau astudio a gynhwysir ym Modiwl Tiwtorial Lefel 2 yn ymdrin a'r canlynol:
- Gwaith prosiect/Traethawdau hir [yn cynnwys fformiwleiddio problemau/cynlluniau: ffynonellau gwybodaeth/technegau: paratoi llyfryddiaethau/telnet bids: technegau ysgrifennu adroddiadau]
- Arweiniad gyrfa/hunan-asesu
- Mathau o syniadaeth ddaearyddol/gofodol/cyfunol/ecolegol/systematig/gwerthusol
Bydd y sgiliau astudio hyn yn cael eu datblygu trwy gyfrwng gwaith prosiect, fel a nodir isod.
RHAGLEN MODIWL
Yn ystod y semester cyntaf, bydd y modiwl tiwtorial yn canolbwyntio ar sgiliau astudio hanfodol ac ar natur trafodaeth
ddaearyddol. Seilir yr asesiad ar dri darn o waith i'w gyflwyno. Bydd rhain yn cynnwys.
- un darn o waith prosiect yn ymwneud ag un neu fwy o'r sgiliau astudio canlynol:- arweiniad gyrfa, hunan-asesu, cyflwyniad llafar, llyfryddiaeth
- dau draethawd academaidd ar bynciau y bydd y tiwtor yn penderfynu arnynt.
Yn ystod yr ail semester, bydd y modiwl tiwtorial yn canolbwyntio ar drafod theori daearyddiaeth a daearyddiaeth ymarferol ac ar baratoi am astudiaeth ddaearyddol annibynnol. Pwysleisir y berthynas sydd rhwng y ddau gynllun yma. Anogir y myfyrwyr hefyd i weld arwyddocad y cyswllt sydd rhwng eu hymchwil annibynnol eu hunain a chyrsiau eraill mewn daearyddiaeth, yn enwedig felly gynnwys cyrsiau ymarferol y flwyddyn gyntaf a'r ail flwyddyn. Bydd llyfryn ynglyn a pharatoi astudiaeth ddaearyddol annibynnol ar gael i fyfyrwyr.
I fyfyrwyr anrhydedd sengl, bwriedir i'r semester roi cymorth uniongyrchol ar gyfer paratoi traethawd hir. Byddant yn paratoi i'w hasesu dri papur cefndirol o 1800 o eiriau ar y mwyaf. Nid tiwtor y modiwl o angenrheidrwydd fydd arolygydd y traethawd a rhagwelir na fydd trafodaeth gyda'r tiwtor yn digwydd tan yn nes at ddiwedd y modiwl. Bydd yr hyn a gynhwysir yn y tri phapur cefndirol fel a ganlyn:
1. Methodoleg ymchwil. Arolwg trosfwaol o'r methodolegu a ddefnyddir ar hyn o bryd mewn daearyddiaeth ddynol neu ffisegol. Anogir myfyrwyr i fynegi bod yn well ganddynt un fethodoleg yn fwy na'r lleill. Gall hyn wedyn o bosibl ddarparu'r seiliau methodolegol ar gyfer gwaith traethawd.
2. Amgyffred problemau. Gofynnir i'r myfyrwyr amgyffred yn annibynnol dair problem ymchwil ar wahan wedi eu tynnu o dair cangen wahanol mewn daearyddiaeth. Gofynnir wedyn i'r myfyrwyr gyflwyno crynodeb ac arolwg o'r llenyddiaeth