| Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
|---|---|
| Darlithoedd | 10 lectures x 2 hours |
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
|---|---|---|
| Arholiad Ailsefyll | 2 Awr AILSEFYLL ARHOLIAD Fformat yn union yr un peth ir arholiad semestr. | 100% |
| Arholiad Semester | 2 Awr ARHOLIAD YSGRIFENEDIG ateb 2 gwestiwn allan o 4. | 100% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Disgrifio ac esbonio prosesau erydiad, cludiant a dyddodi sydd yn gweithredu ar lethrau ac mewn sianel afon.
Disgrifio ac esbonio sut y mae newidiadau mewn llif a chyflymder yn effeithio gweithrediad prosesau afonol a sut y maent yn effeithio geometreg y sianel a phatrymau sianeli afon.
Trafod y datrysiadau rheolaeth a ellid eu cymhwyso er mwyn datrys problemau sefydlogrwydd llethr a phroblemau erydiad/dyddodiad mewn sianeli afon.
Amcan y modiwl yw i ddarparu gwerthusiad manwl o'r prosesau sydd yn gweithredu o fewn y basn afon cyfoes. Yn gyntaf, ystyrir system y llethr, lle mae prosesau mas symudiad a phrosesau creu sianeli yn bwysig. Mae gweddill y cwrs yn canolbwyntio ar brosesau sydd yn weithredol o fewn system y sianel. Ymhob darlith, cefnogir theori sianel gan enghreifftiau o astudiaethau achos, gan roi sylw penodol i goblygiadau prosesau geomorffolegol naturiol ar reolaeth afon.
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Dim |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Dim |
| Datrys Problemau | Dim |
| Gwaith Tim | Dim |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Gwneir hyn trwy ddarllen yn annibynnol ac fe'I asesir trwy safon y gyfeiriadaeth yn yr arholiad ysgrifenedig. |
| Rhifedd | Dim |
| Sgiliau pwnc penodol | Dim |
| Sgiliau ymchwil | Gwneir hyn trwy ddarllen yn annibynnol ac fe'I asesir trwy safon y gyfeiriadaeth yn yr arholiad ysgrifenedig. |
| Technoleg Gwybodaeth | Dim |
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5