Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 11 x 2 hours |
Seminarau / Tiwtorialau | 6 x 2 hours |
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad dibaratoad. Ateb dau gwestiwn allan o bedwar. | 50% |
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad dibaratoad. Ateb dau gwestiwn allan o bedwar | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Cyflwyniad llafar pryd y disgwylir i fyfyrwyr gysylltu themau'r darlithiau a digwyddiad neu broses cyfoes allweddol. | 20% |
Asesiad Ailsefyll | Cylchgrawn ymchwil lle mae myfyrwyr yn ystyried themau allweddol sy'n codi yn y darlithiau. | 30% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad llafar lle mae disgwyl i fyfyrwyr gysylltu themau'r darlithiau a digwyddiad neu broses cyfoes allweddol. | 20% |
Asesiad Semester | Cylchgrawn ymchwil lle mae myfyrwyr yn ystyried themau allweddol sy'n codi yn y darlithiau | 30% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Yn y modiwl hwn cyflwynir myfyrwyr i thema^u allweddol daearyddiaeth economaidd gyfoes. Mae'n archwilio'r newidiadau allweddol sy'n digwydd o fewn economi gofod cyfalafol cyfoes a'r drefn wleidyddol a chymdeithasol gysylltiedig. Yn benodol, mae'n archwilio'r prosesau sy'n cynnal ac yn siglo cyfalafiaeth a sut y mae daearyddiaeth yn gysylltiedig a^ chyfalafiaeth - o'r raddfa fyd-eang i'r corff. Wrth drafod y thema^u hyn, mae'r modiwl yn cyflwyno sawl fframwaith damcaniaethol sy'n galluogi myfyrwyr i ystyried daearyddiaeth y newidiadau allweddol cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol. O blith y thema^u penodol a drafodir mewn darlithiau y mae ailstrwythuro economaidd, cyfalafiaeth amgen, ymgorffori cyfalafiaeth, daearyddiaethau dinesig newydd, daearyddiaethau llywodraethu ac ymfudo a dinasyddiaeth. Yn ogystal a^ darlithiau ar y thema^u hyn, bydd y myfyrwyr hefyd yn mynychu chwe seminar lle byddant yn trafod yn fanylach thema^u allweddol sy'n codi o'r darlithiau.
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd sgiliau cyfathrebu llafar yn cael eu datblygu a'u hasesu yn y seminarau, a'r sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig yn yr arholiad. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Ni fydd yn cael ei ddatblygu'n benodol drwy'r modiwl hwn. Gall cynnwys y darlithiau a'r darllen annog myfyrwyr yn anuniongyrchol i ystyried eu syniadau a'u safbwyntiau, ac i rai gall arwain at lwybr gyrfa posibl efallai. |
Datrys Problemau | Bydd datrys problemau yn cael rhywfaint o sylw anuniongyrchol o ganlyniad i gynnwys y darlithiau ond ni fydd yn cael ei ddatblygu'n benodol yn y modiwl. |
Gwaith Tim | Nis datblygir yn y modiwl hwn. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Dylai myfyrwyr ymdrechu i ddatblygu eu sgiliau yn y maes hwn drwy neilltuo amser rhydd i ddarllen a pharatoi ar gyfer arholiadau. Nid yw'n cael ei ddatblygu'n benodol yn y modiwl. |
Rhifedd | Nis datblygir yn y modiwl hwn |
Sgiliau pwnc penodol | Nodwyd y rhain yn Adran B. |
Sgiliau ymchwil | Anogir myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau ymchwil drwy gasglu deunydd o'r llyfrgell a'r rhyngrwyd wrth baratoi ar gyfer y seminarau. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd myfyrwyr yn cael eu cyfeirio at ddeunydd o'r rhyngrwyd wrth iddynt baratoi am y seminar. |
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5