Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 10 x 2 hours |
Seminarau / Tiwtorialau | 6 x 2 hours seminars |
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad dibaratoad. Ateb dau gwestiwn allan o bedwar. | 50% |
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad dibaratoad. Ateb dau gwestiwn allan o bedwar | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Cyflwyniad llafar pryd y disgwylir i fyfyrwyr gysylltu themau'r darlithiau a digwyddiad neu broses cyfoes allweddol. | 20% |
Asesiad Ailsefyll | Cylchgrawn ymchwil lle mae myfyrwyr yn ystyried themau allweddol sy'n codi yn y darlithiau. | 30% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad llafar lle mae disgwyl i fyfyrwyr gysylltu themau'r darlithiau a digwyddiad neu broses cyfoes allweddol. | 20% |
Asesiad Semester | Cylchgrawn ymchwil lle mae myfyrwyr yn rhoi cryn ystyriaeth i themau allweddol sy'n codi yn y darlithiau | 30% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Yn y modiwl hwn cyflwynir myfyrwyr i thema^u allweddol daearyddiaeth wleidyddol gyfoes. Mae'r modiwl wedi ei rannu yn ddwy adran. Mae'r adran gyntaf yn archwilio dylanwad gofod a thiriogaeth ar ffurfiant y wladwriaeth , strategaeth y wladwriaeth a nodweddion gwleidyddol ar amrywiol raddfeydd, o'r byd-eang i'r lleol. Mae'r adran hon yn cyflwyno cysyniadau am genedl a gwladwriaeth-genedl, imperialaeth, geowleidyddiaeth feirniadol a'r rhanbarth, yn ogystal ag ymchwilio i faterion cyfoes megis integreiddio Ewropeaidd, datganoli a chenedlaetholdeb yn y DU a threfn y byd o^l-9/11. Mae ail adran y modiwl yn astudio'r berthynas rhwng lle, pobl a gweithredoedd gwleidyddol gan gynnwys patrymau pleidleisio, gwrthdystio a dinasyddiaeth fywiog. Yn y modiwl cyflwynir cysyniadau megis dinasyddiaeth, cyfalaf cymdeithasol a symudiadau cymdeithasol a thrafodir materion cyfoes gan gynnwys symudiadau amgylcheddol a gwrth-globaleiddio a chanlyniadau etholiadau cyffredinol diweddar Prydain. Yn ogystal a^ darlithiau ar y thema^u hyn, bydd myfyrwyr hefyd yn mynychu chwe seminar lle byddant yn trafod yn ddyfnach thema^u allweddol sy'n codi o'r darlithiau.
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd sgiliau cyfathrebu llafar yn cael eu datblygu a'u hasesu yn y seminarau, a'r sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig yn yr arholiad. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Ni fydd yn cael ei ddatblygu'n benodol drwy'r modiwl hwn. Gall cynnwys y darlithiau a'r darllen annog myfyrwyr yn anuniongyrchol i ystyried eu syniadau a'u safbwyntiau, ac i rai gall arwain at lwybr gyrfa posibl efallai. |
Datrys Problemau | Bydd datrys problemau yn cael rhywfaint o sylw anuniongyrchol o ganlyniad i gynnwys y darlithiau ond ni fydd yn cael ei ddatblygu'n benodol yn y modiwl.. |
Gwaith Tim | Nis datblygir yn y modiwl hwn. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Dylai myfyrwyr ymdrechu i ddatblygu eu sgiliau yn y maes hwn drwy neilltuo amser rhydd i ddarllen a pharatoi ar gyfer arholiadau. Nid yw'n cael ei ddatblygu'n benodol yn y modiwl. |
Rhifedd | Nis datblygir yn y modiwl hwn |
Sgiliau ymchwil | Anogir myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau ymchwil drwy gasglu deunydd o'r llyfrgell a'r rhyngrwyd wrth baratoi ar gyfer y seminarau. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd myfyrwyr yn cael eu cyfeirio at ddeunydd o'r rhyngrwyd wrth iddynt baratoi am y seminar. |
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5