Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
(i) defnyddio llenyddiaeth rhyngddisgyblaethol er mwyn dadansoddi pynciau yn ymwneud a newidiadau byd-eang, globaleiddio a chwilfriwiad, yn nhermau damcaniaethau ac astudiaethau achos.
(ii) deall natur a rol globaleiddio yn ei gyd-destun hanesyddol.
(iii) datblygu sgilliau dadansoddi o wahanol mathau trwy ddefnydd o lenyddiaeth, ffynonellau ystadegol ac astudiaeth annibynnol.
Nod
(i) ystyriaeth o'r newidiadau byd-eang diweddaraf gan ddefnyddio dulliau damcaniaethol ac astudiaethau achos.
(ii) ymwneud a'r ddadl globaleiddio.
(iii) deall y cyfyngiadau ar globaleiddio, anghyfartaledd prosesau cyfoes ynghyd a phwysigrwydd y 'lleol'.
Cynnwys
Pwrpas y modiwl yw cyflwyno dadleuon cyfoes am globaleiddio a chwilfriwiad. Pwysleisir nifer o themau allweddol, sef
- globaleiddio yn ei gysylltiadau hanesyddol
- pa mor fyd eang yw globaleiddio: patrymau daearyddol anghyfartal
- cyfyngiadau globaleiddio
- gwrthwynebiad i globaleiddio
- globaleiddio oddi uchod ac oddi isod
- lleolelddio yn ei gysylltiadau byd eang
Trafodir y themau hyn trwy ystyried nifer o astudiaethau achos (gweler Darlithoedd 7, 8, 9 a 10 isod)
Pynciau'r darlithoedd:
- Beth yw globaleiddio/nid yw globaleiddio a chwilfriwiad yn gwrthddweud eu gilydd
- Globaleiddio economaidd
- Globaleiddio diwylliannol
- Globaleiddio gwleidyddol
- Cyfyngiadau ar globaleiddio/pwysigrwydd y lleol
- Ymwrthod a globaleiddio/globaleiddio oddi isod
- Astudiaeth Achos I: tiodi a dyled yng ngwledydd Is Sahara Affrica
- Astudiaeth Achos II: mudo, ffoaduriaid, diogelwch a hawliau dynol
- Astudiaeth Achos III: troseddau - masnach cyffuriau a golchi arian
- Astudiaeth Achos IV: crefydd - ffwndamentaliaeth ac actifiaeth crefyddol