Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Eraill | 20 Hours. Case Study. 10 x 2 awr |
Sesiwn Ymarferol | 1 x 2 awr |
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | Paper dwy awr (heb ei weld ymlaen llaw). | 100% |
Arholiad Semester | 2 Awr Papur arholiad dwy awr, gyda phapur sydd wedi ei weld gan y myfyrwyr ymlaen llaw. Ateb dau gwestiwn allan o bedwar. | 75% |
Asesiad Semester | Creu tudalennau gwe yn archwilio un agwedd o Ddaearyddiaeth Geltaidd iw cyflwyno yn wythnos 10 or modiwl. Aseiniad: | 25% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Wedi gorffen y modiwl hwn bydd y myfyrwyr yn gallu (1) arddangos dealltwriaeth glir o'r cysyniadau gwahanol sydd wedi eu crybwyll fel modd o esbonio'r hyn ydyw'r Celtaidd; (2) dangos dealltwriaeth o'r cyd-destunau gofodol a hanesyddol sydd yn gysylltiedig gyda'r Celtaidd; (3) disgrifio a gwerthuso'r gwahaniaethau a'r tebygrwydd rhwng y diwylliannol Celtaidd gwahanol; (4) integreiddio themau'r modiwl gyda'r darllen cefndir mewn ffordd synhwyrol; (5) gwerthuso'n feirniadol gwybodaeth o'r cyfryngau a'u cysylltu a themau'r modiwl; (6) cynhyrchu tudalennau gwe o safon uchel.
Bydd y modiwl yn cynyddu dealltwriaeth y myfyrwyr o brosesau rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol sydd yn effeithio pobl Celtaidd, y tu mewn a thu allan i'r gwledydd Celtaidd. Bydd y modiwl yn cynyddu sgiliau gwerthusol, beirniadol a chreadigol y myfyrwyr. Y mae'r modiwl, yn ogystal, yn ceisio gwella sgiliau Technoleg Gwybodaeth y myfyrwyr.
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6