Cod y Modiwl
DA31620
Teitl y Modiwl
ADNODDAU DWR A HYDROLEG BYDOL
Blwyddyn Academaidd
2008/2009
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Professor Tony Jones
Semester
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod
Elfennau Anghymharus
GG31620
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
 

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 10 x 2 awr
Seminarau / Tiwtorialau 2 x 2 awr, cyflwyniadau gan grwpiau a thrafodaeth
Sesiwn Ymarferol 1 x 4 awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yn cychwyn trwy edrych ar y sialesau, y patrymau a'r adnoddau sydd ar gael ar raddfa fydol. Dilynir hyn gan ddadansoddiad dwys o'r ddealltwriaeth bresennol o brosesau hydrolegol ar raddfa'r basn afon, o golledion anweddu I lwybrau dr mewn pridd a chreigiau, gan gloi gyda chyflwyniad i dduliau o fodelu hydolegol. Mae perthnasedd y prosesau yma i broblemau yn y byd go iawn yn cael ei bwysleisio ar hyd yr amser e.e. effeithiau newid llystyfiant a threfoli, ac effaith llwybrau dwr ar lygredd.

Mae'r modiwl yn gorffen gyda darn ar reoli adnoddau gan son am ddylunio systemau rheoli adnoddau dwr, llwyddiant a methiannau argaeau mawr, delio gyda llifogydd a sychder, gwarchodaeth amgylcheddol a iachau, hydrowleidyddiaeth, terfysgaeth rhyngwladol, bygythiad corfforaethau i allu sicrhau rhannu adnoddau'n deg, ac effeithiau rhagweladwy newid hinsawdd. Mae'r darn yn cloi gyda asesiad o rinweddau cymharol ffynhonellau newydd o ddwr o gymharu a dulliau o arbed dwr.

Mae addysgu yn cynnwys sesiynau ymarferol cyfrifiadurol a teithiau maes ar gyfer pob un o'r prif adrannau ac ymchwil a chyflwyniadau grwp ar faterion allweddol.

Cynnwys

1) Cynnwys cyffredinol

2) Prosesau amgylcheddol:

3) Rheoli adnoddau

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Cyflwyniadau seminar grwp a thrafodaeth
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu diddordebau a sgiliau sydd yn ymwneud a gyrfaoedd
Datrys Problemau Adnabod ffactorau a allay ddylanwadu ar ddatrysiadau posib. Dadansoddi manteision ac anfanteision datrysiadau gwahanol.
Gwaith Tim Cyflwyniadau grwp a thrafodaeth
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Ysgrifennu prosiect fel traethawd estynedig
Rhifedd Na
Sgiliau pwnc penodol Datblygir adnabyddiaeth o offer penodol a dylunio ymchwil, dadansoddiadau o ddigwyddiadau eithafol, ac archifau data.
Sgiliau ymchwil Cyflwyniadau grwp a thraethodau estynedig unigol
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio archifau data ar y we, a dadansoddi gwaith sefydliadau amrywiol sydd yn ymwneud a dwr. Asesir drwy¿r traethawd estynedig.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6