Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 18 (cyfuniad o ddarlith a seminar) |
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad dwy awr | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Os methir y modiwl, bydd cyfle i ail-sefyll arholiad (50%) ar traethodau wedi eu hasesu (40%). Os oedd rhewsm dilys (meddygol) dros beidio a chyflwynor gwaith bydd cyfle i gyflwynor elfen(nau) coll am yr ystod cyfan o farcia ar y dyddiad penodol yng nghyfnod yr Arholiadau Atodol. Os methwyd y modiwl oherwydd marciau isel neu am na chyflwynwyd elfen or gwaith, bydd yn rhaid ailsefyll yr holl elfennau (os cafwyd <40% ynddynt i gyd), neu ailgyflwyno neu ailsefyll yr elfen a fethwyd (arholiad neu aseiniad er mwyn cael marc uchafswm o 40% yn y modiwl). Rhaid ir traethodau a ailgyflwynwyd ymwneud a phynciau gwahanol ir rhai a gwblhawyd y tro cyntaf. | |
Asesiad Semester | Cyflwyniad Seminar: | 10% |
Asesiad Semester | Dau draethawd iw cyflwyno yn wythnosau 6 a 11. Traethodau: Os cyflwynir i traethodau yn hwyr bydd y marc yn gostwng 5% bob dydd. Y mae angen cwblhau'r holl elfennau er mwyn pasio'r modiwl a bydd y marc terfynol yn gyfuniad o'r holl elfennau. | 40% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Wedi cwblhau'r modiwl hwn bydd y myfyrwyr yn medru (1) cyfathrebu yn helaeth am y gwahanol ddadansoddiadau a chysyniadau sydd yn ceisio esbonio natur y wladwriaeth a chenedlaetholdeb; (2) dangos eu dealltwriaeth o'r rhyng-berthynas agos rhwng y wladwriaeth fodern a chenedlaetholdeb; (3) mynegu ymwybyddiaeth eang am natur diwylliannau lleiafrifol ledled y byd, ynghyd a gwerthfawrogi y gwahaniaethau a'r tebygrwydd sydd rhyngddynt; (4) dod a themau'r cwrs a'r darllen craidd at ei gilydd; (5) dadansoddi adroddiadau ac erthyglau yn y cyfryngau mewn modd beirniadol, a'u clymu i mewn i brif themau y cwrs.
Bydd y modiwl hwn yn darparu ymwybyddiaeth eang i'r myfyrwyr o gysyniadau sydd yn ymwneud a natur y wladwriaeth, cenedlaetholdeb a diwylliannau lleiafrifol. Bydd y modiwl hefyd yn eu galluogi i werthfawrogi patrymau a phrosesau rhanbarthol a chenedlaethol yn y maes hwn sydd yn digwydd ledled y byd. Yn ogystal a hyn, bydd y modiwl yn cynyddu gallu dadansoddol, cymharol, beirniadol a chreadigol y myfyrwyr.
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6