Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Seminarau / Tiwtorialau | 6 x 1 awr o ddosbarthiadau tiwtorial (grwpiau o 4 neu 5 o fyfyrwyr) 4 x 1 awr o gyfarfodydd grwp blwyddyn |
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Ailgyflwyno elfennau a fethwyd | 100% |
Asesiad Semester | Traethawd 2500 gair a dadl grwp ar fater daearyddol cymhwysol (cyflwyniad ysgrifenedig 75%, cyfraniad i'r ddadl 25%) | 50% |
Asesiad Semester | Traethawd 3000 gair ar ymchwil ddaearyddol gyfoes | 50% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Bydd gan bob cynllun gradd ei maes llafur tiwtorial ei hunan sy'n canolbwyntio ar gasgliadau ymchwil mwyaf diweddar y ddisgyblaeth. Trafodir materion y dydd yn amlygu'r cyfraniad sy'n rhaid i ddaearyddwyr ei wneud wrth ddatrys heriau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd yr 21ain ganrif. Wrth wraidd y maes llafur mae sesiynau sy'n canolbwyntio ar ddatblygiad personol a sgiliau'r myfyrwyr eu hunain ac ar weithgaredd sy'n annog ymrwymo i gyflogadwyedd. Mae'r modiwl yn rhan bwysig o system cymorth fugeiliol IGES ac yn gyfrwng i raglen AGAPh.
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Datblygu sgiliau ysgrifennu adroddiadau a thraethodau. Yn ogystal a dadl a asesir, disgwylir i fyfyrwyr gyfrannu at drafodaethau grwp ar amrywiaeth o bynciau (e.e. papurau ymchwil newydd, daearyddiaeth yn y newyddion, cyflogadwyedd) |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Sesiynau grwp blwyddyn a dosbarthiadau tiwtorial penodol ar gynllunio gyrfa |
Datrys Problemau | Bydd problemau daearyddol mewn cyd-destun cymhwysol yn cael eu harchwilio trwy'r drafodaeth grwp a'r aseiniad cysylltiedig |
Gwaith Tim | Dewisir pwnc y ddadl gan y myfyrwyr ac mae'n gofyn am waith grwp wrth baratoi am yr achos o blaid neu yn erbyn |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Dosbarth tiwtorial penodedig ar hunanasesu sgiliau pwnc-benodol a chyffredinol. |
Rhifedd | NA |
Sgiliau ymchwil | Ymchwil annibynnol ar gyfer aseiniadau ysgrifenedig a dadl grwp. Gofynnir am ymchwil ychwanegol ar gyfer gweithgareddau tiwtorial eraill a asesir yn ffurfiannol. |
Technoleg Gwybodaeth | Prosesu geiriau, defnyddir PowerPoint wrth baratoi gwaith a asesir |
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6