Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
DA39630
Teitl y Modiwl
TRAETHAWD ESTYNEDIG DAEARYDDIAETH DDYNOL
Blwyddyn Academaidd
2008/2009
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Elfennau Anghymharus
DA39130
Elfennau Anghymharus
GG39130
Elfennau Anghymharus
DA39210
Elfennau Anghymharus
GG39630
Elfennau Anghymharus
GG39210
Rhagofynion
GG27720

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminarau / Tiwtorialau Tri dosbarth tiwtorial unigol - un i drafod y data a gasglwyd a strategaethau ar gyfer dadansoddi, un i drafod strwythur adroddiad terfynol y traethawd estynedig; ac un i drafod drafft o'r adroddiad
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Mae ailsefyll arholiad neu waith cwrs nas cwblhawyd am resymau a ganiatawyd (rhesymau meddygol) yn golygu cwblhaur elfen(nau) coll ar gyfer yr amrediad llawn o farciau ar y dyddiadau a osodir yng nghyfnod yr Arholiadau Atodol. Mae ailsefyll oherwydd methur asesiad yn llwyr neun rannol yn gofyn am arholi pob elfen eto os cafwyd marciau o <40% yn y ddau, neu ailarholi neu ailgyflwynor elfen a fethwyd (arholi aseiniad(au) i sicrhau uchafswm o 40% o farciau ar gyfer y modiwl). 
Asesiad Semester Adroddiad terfynol ar brosiect y traethawd estynedig o oddeutu 10,000 o eiriau. Iw gyflwyno yn wythnos 6 o semester 2.  75%
Asesiad Semester Adroddiad interim o oddeutu 2,000 o eiriau yn cyflwyno a chrynhoi data a gesglir. Iw gyflwyno yn wythnos 3 o semester 1.  25%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Cynllunio, dylunio a chyflawni darn o ymchwil neu ymholiad daearyddol trwyadl.

2. Cyflawni ymchwil empiraidd effeithiol ac addas, gan gynnwys casglu data cynradd a/neu grynhoi gwybodaeth o ffynonellau eilaidd

3. Dadansoddi data'n drwyadl, gan ddefnyddio technegau addas a dehongli canlyniadau yng nghyd-destun gwybodaeth a theoriau sy'n bodoli.

4. Cynhyrchu adroddiad ysgrifenedig sylweddol ar yr ymchwil mewn dull academaidd addas.

5. Dangos hunangymhelliad, gallu i gynllunio a blaengarwch wrth weithio'n annibynnol.

Disgrifiad cryno

Modiwl yw hwn ar ffurf prosiect ymchwil annibynnol sy'n cael ei arwain gan y myfyriwr. Bydd pwnc addas sy'n berthnasol i'r byd daearyddiaeth yn cael ei gynnig gan y myfyriwr a'i gymeradwyo gan gyd-gysylltydd y modiwl. Ceir pedair rhan i'r prosiect: (i) dynodi pwnc ymchwil a datblygu cynllun ymchwil addas; (ii) ymchwil empiraidd i gasglu data cynradd a/neu gasglu gwybodaeth o ffynonellau eilaidd, fel bo'n briodol ar gyfer y gwaith ymchwil. Cyflwynir adroddiad yn darparu a chrynhoi data yn gynnar yn semester 1; (iii) dadansoddi data a gwybodaeth, gan gynnwys dehongli canlyniadau yng nghyd-destun gwybodaeth a theoriau sy'n bodoli; (iv) creu adroddiad terfynol 10,000 o eiriau, i'w gyflwyno yn wythnos 6 o semester 2. I'r holl fyfyrwyr yn unigol pennir ymgynghorydd a fydd yn rhoi arweiniad ynghylch datblygiad y prosiect a'r modd y dylid adrodd amdano

Cynnwys

Mae'r modiwl ar ffurf prosiect ymchwil annibynnol yn cael ei arwain gan y myfyriwr. Cynigir y pwnc gan y myfyriwr a'i gymeradwyo gan gyd-gysylltydd y modiwl. Bydd pob myfyriwr yn cael ymgynghorydd ei hun a fydd yn darparu arweiniad ar ddatblygiad y prosiect a sut i gyflwyno adroddiad arno

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Datblygir sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig trwy greu adroddiad o 10,000 o eiriau (a asesir). Datblygir sgiliau cyfathrebu llafar trwy drafod yr ymchwil mewn dosbarthiadau tiwtorial (nas asesir); a gellir eu datblygu trwy ymchwil empiraidd lle defnyddir dulliau ymchwil geiriol
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Ni fydd sgiliau datblygiad personol a chynllunio gyrfa yn cael eu datblygu'n benodol drwy'r modiwl hwn; serch hynny, bydd llawer o'r sgiliau generig a ddatblygir trwy'r prosiect ymchwil yn hynod drosglwyddadwy i ystod eang o yrfaoedd.
Datrys Problemau Datblygir sgiliau datrys problemau trwy nodi cwestiynau ymchwil, methodoleg addas a chynllun ymchwil, a thrwy ymatebion i anawsterau a brofir yn ystod casglu'r data.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae myfyrwyr yn cael eu hannog i fyfyrio ar eu profiad o gynllunio ac ymgymryd ag ymchwil yn nhrafodaethau'r dosbarthiadau tiwtorial.
Rhifedd Os yn addas i'r pwnc ymchwil a ddewisir, gall myfyrwyr ddatblygu sgiliau rhifyddol trwy gasglu, dadansoddi a chyflwyno data meintiol.
Sgiliau ymchwil Datblygir sgiliau ymchwil trwy gasglu a dadansoddi data sy'n briodol ar gyfer ymchwilio i'r cwestiynau ymchwil.
Technoleg Gwybodaeth Bydd disgwyl i fyfyrwyr ddefnyddio adnoddau TG priodol wrth ddynodi ffynonellau data a chasglu data (e.e. y rhyngrwyd, adnoddau gwybodaeth electronig), wrth ddadansoddi data (e.e. pecynnau ystadegol), ac wrth wneud adroddiad ar y prosiect (e.e. prosesu geiriau, pecynnau GIS a mapio).

Rhestr Ddarllen

Testun A Argymhellwyd
Flowerdew, R. & Martin, D (1997) Methods in Human Geography: a guide to students doing a research project. Longman Chwilio Primo Hoggart, K., Lees, L. & Davies, A (2002) Researching Human Geography. Arnold Chwilio Primo Kennedy, B. A. , yn A. Rogers, H. Viles & A. Goudie (golygyddion) (1992) First catch your hare... research designs for individual projects, The Student?s Companion to Geography. Blackwell Chwilio Primo Kneale, P. (1999) Study Skills for Geography Students: a practical guide. Arnold Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6