Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 10 x 1 awr |
Seminarau / Tiwtorialau | 10 x 1 awr |
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Cyfraniad i sesiynau gan gynnwys gwaith paratoi ar gyfer sesiynau. Bydd cyfres o dasgau ysgrifenedig a llafar yn cael eu gosod yn ystod y sesiynau yn cynnwys tri chywaith a phum darn o waith unigol. | 60% |
Asesiad Semester | Traethawd neu Adroddiad/Adolygiad ysgrifenedig hyd at 2000 o eiriau. | 40% |
Asesiad Ailsefyll | Ailgyflwyno unrhyw waith nas cyflwynwyd eisioes neu waith y methwyd. |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
1. Trafod ar lafar mewn modd cymedrol a chadarnhaol.
2. Defnyddio adnoddau technoleg gwybodaeth megis Voyager, Blackboard a medalwedd y we.
3. Dangos dealltwriaeth o nodweddion ieithyddol disgwrs academaidd.
4. Darllen a dethol gwybodaeth ysgrifenedig mewn modd pwrpasol.
5. Paratoi a chyflwyno dadl academaidd yn ysgrifenedig mewn modd rhesymegol a chydlynus.
6. Cymryd nodiadau ysgrifenedig mewn ymateb i wybodaeth a gyflwynir ar lafar.
7. Dangos dealltwriaeth o werth y sgiliau craidd a gyflwynir yn y modiwl yng nghyd-destun gyrfaoedd posibl.
8. Cyflwyno gwaith ysgrifenedig sy'n cydymffurfio a chanllawiau diwyg ysgrifennu academaidd.
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i sgiliau sy'n hanfodol ar gyfer rheoli a datblygu eu hastudiaethau is raddedig ar lefel Addysg Uwch. Bydd y modiwl yn fodd o bontio rhwng addysg ysgol ac addysg uwch ac fe fydd yn darparu sgiliau trosglwyddadwy i fyfyrwyr Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu i'w galluogi i drefnu, datblygu a deall hanfodion gwaith llafar ac ysgrifenedig ar lefel Brifysgol. Fe fydd yna elfen o baratoad ar gyfer anghenion gyrfaol yn y dyfodol ac ymgais i leoli astudiaethau'r myfyrwyr yng nghyd-destun y byd proffesiynol y tu hwnt i'r Brifysgol.
Fe fydd y modiwl yn cyflwyno myfyrwyr i sgiliau ysgrifennu sylfaenol. Canolbwyntir ar ymarfer ystod eang o sgiliau ysgrifennu megis cyflwyno adroddiadau, traethodau, cymryd nodiadau darlith a thechneg ysgrifennu mewn arholiad. Bwriedir gynnwys elfen o waith a fydd yn canoli ar ddatblygu sgiliau llafar a fydd yn benodol ddefnyddiol mewn seminarau a chyfarfodydd tiwtora. Bydd y sgiliau yn cynnwy datblygu hyder, y gallu i gyfrannu at drafodaeth grwp mewn modd cadarnhaol, gallu i ymateb i farn unigolion a grwpiau eraill, y gallu i fynegi barn ar lafar yn glir a chroyw ac yn gynnil lle bo'r angen. Hefyd fe fydd elfen o hyfforddiant ymarferol i hybu defnydd o'r llyfrgell a defnydd o system Voyager. Rhoddir sylw hefyd i sgiliau dethol gwybodaeth wrth ddarllen a gwahanol dulliau o ddarllen a chofnodi deunydd perthnasol. Cyflwynir myfyrwyr i ddatblygiad gyrfaol yng nghyd-destun manteisio'n llawn ar eu gyrfa Brifysgol a chyflwyno a pharatoi CV.
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd myfyrwyr yn ymarfer y grefft hon wrth drafod mewn sesiynau ar lafar ac wrth feithrin sgiliau ysgrifennu aeddfed ac effeithiol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygiad personol a chynllunio gyrfa yw prif nod y cwrs ac, fel y cyfryw, bydd pob sesiwn yn ychwanegu at stor sgiliau hanfodol y myfyrwyr sef cyfathrebu, ymchwiliio a gweithio mewn tim. Bydd y sesiwn ar yrfaoedd yn canolbwyntio sylw myfyrwyr ar berthnasedd y sgiliau trosglwyddadwy hyn i fyd a gwaith proffesiynol. |
Datrys Problemau | Bydd y myfyrwyr yn ymarfer y grefft hon wrth wynebu'r her ynghlwm wrth dadansoddi a deall cwestiynau academaidd a chyflwyno gwaith academaidd ysgrifenedig. Ar lafar, byddant hefyd yn dysgu sut i drin problemau cyfathrebu posibl wrth gyfrannu at drafodaeth a rheoli trafodaeth. |
Gwaith Tim | Bydd myfyrwyr yn gweithio fel rhan o dim mewn sesiynau ymarferol/seminarau. Bydd gwaith gosod yn gofyn am waith grwp yn amlach na pheidio. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd myfyrwyr yn ymarfer y grefft hon ym mhob sesiwn wrth adolygu eu tasgau gosod a'r cynnyrch gorffenedig. |
Rhifedd | |
Sgiliau pwnc penodol | Meithrin ac arddangos y gallu i ddadansoddi, deall a chyflwyno dadleuon academaidd. |
Sgiliau ymchwil | Bydd myfyrwyr yn ymarfer y grefft hon wrth ddefnyddio'r llyfrgell fel adnodd ar gyfer gwaith ymchwil rhagbaratoadol. Byddant hefyd yn ymarfer y grefft wrth ddewis a dethol deunydd er mwyn cwblhau'r tasgau gosod megis creu llyfryddiaeth. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i ddefnyssio Blackboard, Voyager ac yn dod yn gyfarwydd gyda Powerpoint, Cysgliad a CysGair. |
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4