Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
DD10620
Teitl y Modiwl
CYFLWYNIAD I ASTUDIAETHAU THEATR
Blwyddyn Academaidd
2008/2009
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd Darlith 1 x 1 awr yr wythnos
Sesiwn Ymarferol Sesiwn ymarferol 1 x 2 awr yr wythnos
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Darlleniad ymarferol rhagbaratoedig 1  Dau ddarlleniad ymarferol rhagbaratoedig, gwerth 15% or asesiad yr un.  15%
Asesiad Semester Sylwebaeth ymarferol mewn grwp  Rhaid ail-gyflwynor gwaith a fethwyd: Gofynir i unrhyw fyfyrwyr syn methur cyflwyniad rwp ail-gyflwyno prosiect unigol a fydd yn dilyn briff a osodir gan diwtor y modiwl.  yn dadansoddi a gosod darn dramataidd rhagbaratoedig yn ei gyd-destun theatraidd  40%
Asesiad Semester Sylwebaeth 2000 o eiriau ar destun gosod  Sylwebaeth ymarferol mewn grwp yn dadansoddi a gosod darn dramataidd rhagbaratoedig yn ei gyd-destun theatraidd.  30%
Asesiad Semester Darlleniad ymarferol rhagbaratoedig 2  Sylwebaeth 2000 o eiriau ar destun gosod.  15%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

  1. CYFLWYNO DARLLENIAD O'R TESTUNAU GOSOD MEWN FFORDD SY'N AMLYGU EU CREFFT A'U DIDDORDEB DRAMATAIDD
  2. ARDDANGOS DEALLTWRIAETH O'R TESTUNAU GOSOD FEL DIGWYDDIADAU THEATRAIDD
  3. ARDDANGOS GALLU I GYFLAWNI TASGAU YMCHWIL LLWYDDIANNUS FEL FFORDD O GEISIO DATRYS PROBLEMAU CYMERIADU, LLWYFANNU A.Y.B.

Disgrifiad cryno

Yn y modiwl hwn, trafodir pum testun gosod, gan ganolbwyntio yn gyntaf oll ar eu deinameg ac effeithioldeb cynhenid fel drama, cyn symud ymlaen i ystyried eu nodweddion a'u swyddogaeth fel theatr. Rhydd y sesiynau gweithdy ymarferol gyfle i'r myfyrwyr archwilio a datblygu eu hymdriniaeth o'r testunau fel digwyddiadau byw. Rhydd y darlithoedd gyfle i'r myfyrwyr ddarganfod pwysigrwydd ymchwil hanesyddol fel ffordd o werthfawrogi arwyddocad cyfoes y testunau fel digwyddiadau theatraidd.

Cynnwys

Trefn arfaethedig y darlithoedd a'r gweithdai:

Darlithoedd:

  1. Tshechof, Gwylan: rhagarweiniad i'r testun
  2. Tshechof, Gwylan: y testun a'i gyd-destun theatraidd
  3. Ewripides, Y Bacchai: rhagarweiniad i'r testun
  4. Ewripides, Y Bacchai: y testun a'i gyd-destun theatraidd
  5. Shakespeare, William, Y Dymestl: rhagarweiniad i'r testun
  6. Shakespeare, William, Y Dymestl: y testun a'i gyd-destun theatraidd
  7. Ibsen, Henrik, Dychweledigion: rhagarweiniad i'r testun
  8. Ibsen, Henrik, Dychweledigion: y testun a'i gyd-destun theatraidd
  9. Beckett, Samuel, Diweddgan: rhagarweiniad i'r testun
  10. Beckett, Samuel, Diweddgan: y testun a'i gyd-destun theatraidd
Gweithdai Ymarferol

  1. Tshechof, Gwylan: sefyllfa a chymeriad
  2. Tshechof, Gwylan: gofod dramataidd a gofod theatraidd
  3. Ewripides, Y Bacchai: sefyllfa a chymeriad
  4. Ewripides, Y Bacchai: defodaeth a dinasyddiaeth
  5. Shakespeare, William, Y Dymestl: sefyllfa a chymeriad
  6. Shakespeare, William, Y Dymestl: estroniaeth a meidroldeb
  7. Ibsen, Henrik, Dychweledigion: sefyllfa a chymeriad
  8. Ibsen, Henrik, Dychweledigion: etifeddeg ac esblygiad
  9. Beckett, Samuel, Diweddgan: sefyllfa a chymeriad
  10. Beckett, Samuel, Diweddgan: Auschwitz a'r Rhyfel Oer

Rhestr Ddarllen

Hanfodol
Beckett, Samuel (1996) Diweddgan (Cyfieithiad Gwyn Thomas) Gwasg Prifysgol Cymru Chwilio Primo Ewripides, (2003) Y Bacchai (Cyfieithiad Gareth Miles) Chwilio Primo Ibsen, Henrik (1920) Dychweledigion (Cyfieithiad T. Gwyn Jones) Chwilio Primo Shakespeare, William (1996) Y Dymestl (Cyfieithiad Gwyn Thomas)Gwasg Gee Chwilio Primo Tshecof, Anton (1970) Gwylan (cyfieithiad W . Gareth Jones) Gwasg Prifysgol Cymru Chwilio Primo
Argymhellir - Cefndir
Aristoteles, (2001) Barddoneg (Cyfieithiad J. Gwyn Griffiths) Chwilio Primo Barton, John (1984) Playing Shakespeare Methuen Chwilio Primo Kott, Jan (1967) Shakespeare Oue Contemporary 2il Methuen Chwilio Primo Kott, Jan (1974) The Eating of the Gods: an Interpretation of Greek Tragedy Methuen Chwilio Primo McMillan, Dougald (1988) Becket in the theatre: the Author as Practical Playwright and Director John Calder Chwilio Primo Merlin, Bella (2003) Konstantin, Stanislavsky Routledge Chwilio Primo Stanislavski, Konstantin (1980) An Actor Prepares (Cyfieithiad Elizabeth Reynolds Hapgood)Methuen Chwilio Primo Stanislavski, Konstantin (1988) Building a Character (Cyfieithiad Elizabeth Reynolds Hapgood) Methuen Chwilio Primo Stanislavski, Konstantin (1988) Creating a Role (Cyfieithiad Elizabeth Reynolds Hapgood) Methuen Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4