Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
DD20420
Teitl y Modiwl
SGILIAU SGRIPTIO
Blwyddyn Academaidd
2008/2009
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Rhagofynion
Cwblhau rhan un yn llwyddiannus

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd Darlithiau 4 x 1.5 awr
Seminarau / Tiwtorialau 5 x 1 awr
Sesiwn Ymarferol Dosbarthiadau ymarferol 1 x sesiwn deuddydd yn Sherman Cymru Caerdydd. Bydd y sesiynau yma yn cynnwys sesiynau gwylio deunydd sgriptio newydd a gyflwynir yn yr wyl. Fe fydd cyfle i gyd-drafod ac ymateb yn feirniadol i'r gwaith a gyflwynir ac i leoli'r gwaith hwnnw yng nghyd-destun cynnyrch creadigol y myfyrwyr eu hunain. Fe fydd yn gyfle i fyfyrwyr lunio map syniadaethol o sgriptio yng Nghymru fodern ac i fyfyrio dros eu cyfraniad nhw i'r tirlun hwnnw. Fe fydd cyfle i fyfyrwyr gyflwyno elfennau o'u gwaith creadigol eu hunain i ymarferwyr proffesiynol o dan arweiniad rheolwraig creadigol yr wyl, Sian Summers.
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Portffolio tasgau  40%
Asesiad Semester Sgript drafft manwl  20%
Asesiad Semester Sgript terfynol ugain i drideg munud o hyd  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
1. sianelu eu hynni creadigol yn bwrpasol trwy gyflawni tasgiau sgriptio penodol

2. llunio cronfa syniadau ar sail eu profiadau personol boed yn rhai uniongyrchol neu anuniongyrchol

3. datblygu syniad yn fraslun o weithgaredd dramataidd

4. creu cymeriad dychmygus a rhoi llais priodol iddo/i

5. arddangos sgiliau llunio monolog a deialog

6. ymateb yn gadarnhaol i feirniadaeth a chyngor arbenigol

7. cyflwyno sgript ysgrifenedig i amserlen penodedig wedi ei olygu mewn modd ac i safon proffesiynol

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl yn cyflwyno myfyrwyr i nifer o'r sgiliau sylfaenol sy'n berthnasol i'r grefft o ysgrifennu sgriptiau drama megis ymateb i sbardun, trefnu amser, canoli ar dasgau penodol o fewn i amserlen benodedig, sgiliau cynllunio a pharatoi, sgiliau llunio monolog a deialog, y grefft o lunio cymeriad, sgiliau adolygu a golygu ac ymateb yn bositif i feirniadaeth allanol.

Cynnwys

Bydd y modiwl yn cynnwys 4 sesiwn x 1.5 awr gan ymarferwyr gwadd a 4 x sesiwn 1 awr o diwtora ynghyd a 2 ddiwrnod ar leoliad yn Sherman Cymru Caerdydd. Cyfanswm o 20 awr cyswllt.

  • Sesiwn 1: Chwilio a chanfod ysbrydoliaeth
  • Sesiwn 2: Ymateb i sbardunau amrywiol
  • Sesiwn 3: Datblygu syniad yn fraslun ac ymgorffori'r braslun ar ffurf gweithgaredd dramataidd
  • Sesiwn 4: Creu cymeriadau a rhoi llais iddynt
  • Sesiwn 5-8: Bydd y sesiynau yma yn gyfle i adolygu a thrafod y gwaith a gyflwynir yn y sesiynau gan ymarferwyr gwadd ac i weithio ar greu a golygu gwaith sgriptio a lunir mewn ymateb i'r sbardun hwnnw. Fe fydd y cyfnod dwys hwn yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ddod i gysylltiad gyda chorff sylweddol o waith newydd sgriptwyr ifanc trwy gyfrwng yr wyl ei hun sy'n ffenestr siop i waith sgriptio newydd yn y Gymraeg. Fe fydd hi hefyd yn darparu cyfle i fyfyrwyr dderbyn sylwadau gan sgriptwyr proffesiynol ar y gwaith a'r syniadau a ddyfeisiwyd ganddynt yn ystod y flwyddyn.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Datblygir y sgil hwn wrth i fyfyrwyr lunio cymeriadau a rhoi llais iddynt ac wrth iddynt drafod eu cynlluniau gyda thiwtoriaid a chyd-fyfyrwyr trwy gyfrwng yr hafan gwe a'r sesiynau tiwtorial penodedig.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygir y sgil wrth i fyfyrwyr lunio portffolio a fydd yn cyflwyno eu gwaith ar y cyd yn ogystal a'r cryfderau a diddordebau personol a dyfodd yn sgil y broses o ddilyn y modiwl.
Datrys Problemau Datblygir y sgil hwn wrth i fyfyrwyr fynd i'r afael a'r broblem o ganfod a chynnal ysbrydoliaeth ar gyfer ysgrifennu.
Gwaith Tim Datblygir y sgil hwn wrth i fyfyrwyr cyd-drafod a rhannu syniadau trwy gyfrwng yr hafan we ac ar y cyfnodau dwys yn Sherman Cymru.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Datblygir y sgil hwn wrth i fyfyrwyr sylwebu ar eu gwaith a derbyn sylwebaeth ac wrth iddynt ymgymryd a gwaith golygu ac adolygu.
Rhifedd Ddim yn berthnasol i'r modiwl hwn.
Sgiliau pwnc penodol Fe ddatblygir y gallu i ysgrifennu mewn arddull ac ar fformat sy'n benodol berthnasol i waith sgriptio mewn gwrthgyferbyniad a gwaith ysgrifenedig traddodiadol megis cyflwyno traethodau neu gwblhau arholiadau ysgrifenedig. Datblygir y gallu i gyflwyno a chyfryngu gwaith mewn modd creadigol a deallus sy'n cynnwys y gallu i ymateb yn uniongyrchol ac adeiladol i feirniadaeth o du cynulleidfa neu ddarpar gynulleidfa. Datblygir y gallu i ddeall hanfod theatraidd y testun ysgrifenedig ac i gyfleu'r cyfryw ddealltwriaeth wrth baratoi deunydd ysgrifenedig ar gyfer y modiwl.
Sgiliau ymchwil Datblygir y sgil hwn wrth i fyfyrwyr chwilio am ddeunydd cefndirol addas i sbarduno sgript gwreiddiol.
Technoleg Gwybodaeth Datblygir y sgil hwn trwy ddefnyddio'r we fel cyrchfan ar gyfer deunydd cefndirol ac ymchwil yn ogystal ag wrth ddefnyddio'r hafan we fel gweithdy syniadau.

Rhestr Ddarllen

Hanfodol
Gooch, Steve Writing a Play London, 1995 Chwilio Primo

Dancyger, Ken a Rush, Jeff (1995) Alternative Scriptwriting: Sucessfully breaking the rules Oxford Chwilio Primo Davis, Rib (2001) Developing Characters for Scriptwriting A & C Black Chwilio Primo Phillips, William (1999) Writing Short Scripts Syracuse Uni Press Chwilio Primo Thomas, M Wyn (1992) Internal Difference:Twentieth Century Writing in Wales Uni of Wales Press Chwilio Primo Wood, David (1944) Theatre for Children: A guide to writing, adapting, directing and acting Faber Chwilio Primo Yeger, Sheila (1990) Sound of one hand clapping Charburg: Amber Lane Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5