Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
- DEALL SUT Y MAE TREFN Y GOFOD YN CYFRANNU AT YSTYR UNRHYW DDIGWYDDIAD THEATRAIDD
- ARDDANGOS DEALLTWRIAETH O BWYSIGRWYDD Y DIMENSIWN GOFODOL YN HANES Y THEATR I SAFON FODDHAOL TRWY GREU CYFLWYNIAD GRWP YMARFEROL
- CYD-WEITHIO MEWN GRWP AT NOD A BENNIR GAN Y GRWP
- YMATEB YN GREADIGOL I BOTENSIAL Y GOFOD A DDEWISIR GANDDYNT WRTH LUNIO CYFLWYNIAD YMARFEROL UNIGOL
- DETHOL DULLIAU GWELEDOL A CHLYWEDOL SY'N GYMWYS AR GYFER Y CYFLWYNIAD A GREIR
Disgrifiad cryno
Fe fydd y modiwl hwn yn archwilio hanes y theatr orllewinol ac yn trafod y berthynas rhwng trefniant gofodol neu bensaerniaeth y theatr ac agweddau ar athroniaeth, celfyddyd a gwerthoedd diwylliannol y gwahanol gyfnodau dan sylw. Damcaniaeth sylfaenol y modiwl yw fod ffurf y theatr drwy'r oesoedd yn cynnig allwedd inni ddeall dehongliad yr oes honno o natur yr unigolyn, a bod y theatr felly'n gweithredu fel math ar 'beiriant' sy'n ein galluogi i ganfod ymwybyddiaeth yr oes.
Agwedd bwysig arall ar y modiwl hwn yw ei fod yn cymell myfyrwyr i ystyried y theatr fel cyfrwng gweledol a chorfforol yn hytrach nag fel ffurf ar lenyddiaeth. Yn hytrach na dehongli'r theatr fel ffurf a greir trwy drosglwyddo gweledigaeth dramodydd yn gnawd ar lwyfan, ystyrir theatr fel cyfres o berthnasau gofodol a brofir yn synhwyrusol, a dadleuir bod y profiad o synhwyro gofod yn cymell gweledigaeth a phosibiliadau dramataidd.
Cynnwys
Trefn Arfaethedig y Darlithoedd
- Cyflwyniad: Gofod a'r Corff
- Ffurfiant y Gofod Theatraidd: Defodau a Dramau Gwerin
- Y Theatr Roegaidd
- Dulliau Theatraidd yr Oesoedd Canol
- Y Theatr Shakespearaidd
- Y Theatr Broseniwm: o'r Dadeni i Feloddrama a Naturiolaeth
- Y Dylunydd fel Gweledydd: Richard Wagner ac Adolphe Appia
- Y Dylunydd fel Peiriannydd: Edward Gordon Craig
- Chwalfa: Artaud a'r Ystafell Wag
- Y Safle: Gwaith Brith Gof