Gwybodaeth Modiwlau
Cod y Modiwl
DD21520
Teitl y Modiwl
CYFLWYNIAD I BERFFORMIO
Blwyddyn Academaidd
2008/2009
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | DATBLYGIAD A CHYFRANIAD IR BROSES YMARFER A PHERFFORMIO Asesu Perfformiad: | 70% |
Asesiad Semester | NODIADAU YMARFER AC YMCHWIL Adroddiad Ymarferol: | 30% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Erbyn cwblhau`r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/wraig sy`n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni`r canlynol:
- trin y corff a`r llais fel offerynnau creu ystyr ac arwyddion ar lwyfan
- cyflwyno`u gwaith yn hyderus i gynulleidfa ddethol
- profi`u gallu i fyfyrio`n wrthrychol ar y broses ymarferol
- gosod trefn gymwys ar eu profiadau mewn dyddlyfr
Disgrifiad cryno
Yn y modiwl hwn cyflwynir rhai o brif sgiliau perfformio drwy gyfrwng gwaith ymarferol gan ganolbwyntio ar elfennau sylfaenol megis corff yr actor, perthynas y corff a`r gofod, symbylu a sianelu emosiwn, ffocysu, canolbwyntio a defnyddio`r dychymyg.
Bydd y dosbarthiadau dwy awr wythnosol rhwng dechrau`r Semester a Gwyliau`r Pasg yn cael eu defnyddio i baratoi ar gyfer dangosiad ymarferol.
Nod
Ein nod wrth gyflwyno`r modiwl hwn yw eich galluogi i wneud y canlynol:
- galluogi myfyrwyr i ennill profiad ymarferol o berfformio, a magu sgiliau penodol fel canolbwyntio, ymddiried, byrfyfyrio a.y.y.b.
- gosod gwaith creadigol y myfyrwyr mewn cyd-destun disgyblaethol
Rhestr Ddarllen
HanfodolBarba, Eugenio & Savarese, Nicola (1991) Theatre Anthropology: The Secret Art of the Performer Routledge/CPR Chwilio Primo Grotowski, Jerzy (1975) Towards a Poor Theatre Methuen Chwilio Primo Mitter, Shomit (1992) Systems of Rehearsal Routledge Chwilio Primo Moore, Sonia (1974) The Stanislavsky System Viking Press Chwilio Primo
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5