Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Sesiwn Ymarferol | 9 x 3 awr Dosbarthiadau Ymarferol. Cynhelir yr Arholiad Ymarferol yn ystod y sesiwn ddysgu olaf. |
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Os methir y modiwl oherwydd methiant i gyflwyno unrhyw elfen ysgrifenedig o'r asesiad rhaid ail-gyflwyno'r gwaith hwnnw. Os methir y modiwl oherwydd methu'r arholiad ymarferol, rhaid ail-sefyll y modiwl | |
Asesiad Semester | Llawlyfr Nodiadau Gwaith | 20% |
Asesiad Semester | Arholiad Ymarferol | 50% |
Asesiad Semester | Datblygiad yn y Gweithdai: Presenoldeb, prydlondeb, ymroddiad, datblygiad a chynnydd mewn gweithdai | 30% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Cyflwyniad i egwyddorion actio effeithiol, wedi'u seilio ar ymdriniaeth systemaidd o grefft actio a hyrwyddwyd gan Constantin Stanislavski.
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Fe ddatblygir ac asesir gallu'r myfyrwyr i wyntyllu, datblygu a chyflwyno eu syniadau eu hunain trwy gydol y modiwl. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Mae'r modiwl yn annog myfyrwyr i ddechrau datblygu sgiliau a fydd yn bwysig wrth geisio am swyddi o fewn y diwydiant theatr/perfformio. |
Datrys Problemau | Fe fydd y modiwl yn cymell myfyrwyr i ddatrys problemau creadigol, gan ganfod allbynau a chanlyniadau i'w gweithredu, ynghyd a'r strategaethau priodol ar gyfer cyrraedd nodau a benir ganddynt hwy eu hunain. |
Gwaith Tim | Fe dragodir agweddau o weithio fel tim yn ystod y modiwl, ac mae disgyblaeth a chydweithio creadigol yn allweddol bwysig i lwyddiant y sesiynau dysgu. Nid asesir gwaith tim fel rhan o'r modiwl, fodd bynnag. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Mae hun-asesu a gwerthuso cyrhaeddiad yn gynhenid bwysig i'r astudiaeth theoretig ac ymarferol hon o grefft actio. Gesyd y modiwl bwyslais ar ddatblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad y myfyrwyr yn y sesiynau dysgu ac fe roddir adborth iddynt yn gyson wrth ymgymryd a gwaith dosbarth ac aseiniadau . |
Sgiliau pwnc penodol | Mae ystyriaeth fanwl o grefft a disgyblaeth actio a pherfformio yn ganolog i ddarpariaeth Ddrama'r Adran, ac yn hwyluso sawl agwedd arall ar astudiaethau'r myfyrwyr. |
Sgiliau ymchwil | Fe fydd angen i'r myfyrwyr ddatblygu ystod eang o sgiliau ymchwil wrth baratoi eu gwaith asesiedig e.e. ymchwilio i gefndir bywgraffiadol a gweithiau cyd-destunol gan awduron, archwilio a dadansoddi cyd-destun eu gweledigaeth yn y ddrama osod, cymharu methodoleg ymarfer a.y.b. Er bod y sgiliau hyn yn bwysig i lwyddiant y myfyrwyr, nid asesir hwy'n ffurfiol fel rhan o'r modiwl. |
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5