Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Sesiwn Ymarferol | 10 x 2 awr darlith/sesiwn ymarferol |
Seminarau / Tiwtorialau | 2 x 20 munud tiwtorial unigol |
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Os methir y modiwl oherwydd methiant i gyflwyno unrhyw elfen ysgrifenedig o'r asesiad rhaid ail-gyflwyno'r gwaith hwnnw. Os methir y modiwl oherwydd methu'r elfen ymarferol, rhaid ail-sefyll y modiwl. | 100% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad Ymarferol - Ail Ddarn | 45% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad Ymarferol - Darn Cyntaf | 25% |
Asesiad Semester | Triniaeth Baratoadol Ysgrifenedig | 30% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Erbyn cwblhau'r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/wraig sy'n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni'r canlynol:
- defnyddio methodolegau priodol wrth ddadansoddi testun theatraidd o safbwynt cyfarwyddwr llwyfan
- cyfarwyddo ymarferion a darparu'r cymorth priodol i acotrion wrth greu darn byr o theatr, wedi'i gyflwyno o flaen cyd-fyfyrwyr
Archwiliad ymarferol o fethodolegau a thechnegau cyfarwyddo, gan cynnwys cyfansoddi'r darlun llwyfan, datblygu llinell-drwodd y gweithredu a'r symbyliadau, a datblygu'r cymeriadu trwy gyfrwng archwilio seicolegol a chorfforol. Cyfle i weithio'n annybynnol ar ddethol, ymarfer a chyflwyno dau ddarn byr o destun dramataidd.
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5