Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | Darlithiau 10 x 2 awr |
Sesiwn Ymarferol | Gweithdai Ymarferol 10 x 2 awr |
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Fe fydd y modiwl hwn, trwy ddulliau ymarferol a theoretig, yn caniatau i'r myfyrwyr ddarganfod ac archwilio'r technegau a'r methodolegau arbenigol sy'n berthnasol i'r gangen hon o Astudiaethau Theatr. Fe fydd y myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i hanes Theatr-mewn-Addysg, o'i ddechreubwynt fel amrawf yng Nghofentri yn y 1960au hyd at y presennol. Fe fydd y modiwl yn olrhain achau gwahanol fathau o Theatr-mewn-Addysg ac yn galluogi myfyrwyr, trwy gyfres o ddarlithoedd, seminarau a gweithdai, i archwilio'r strwythurau a'r cyd-destunau amrywiol sy'n berthnasol i'r pwnc. Er mwyn hyrwyddo a datblygu'r astudiaethau hyn, disgwylir i'r myfyrwyr ymweld a chwmniau Theatr-mewn-Addysg er mwyn arsylwi ar eu gwaith ac i fynychu'r dangosiadau DVD/fideo a ddarperir er mwyn deall y cymhlethdodau a'r man-wahaniaethau a geir o fewn y math hwn ar theatr (er enghraifft, wrth weithio yn y sector iechyd mewn carchardai neu gyda'r gwasanaeth prawf).
Fe fydd y modiwl yn trafod hanes a theori Theatr-mewn-Addysg rhwng 1960 a 2004. Gan ddefnyddio elfen ymarferol gref er mwyn hyrwyddo datblygiad a dealltwriaeth academaidd, bwriad y modiwl fyth paratoi'r myfyrwyr ar gyfer y profiad ymarferol estynedig o Theatr-mewn-Addysg a geir yn y drydedd flwyddyn; at hynny, bwriedir gosod sail gadarn i bob myfyriwr yn egwyddorion ac ymarfer Theatr-mewn-Addysg; a'i berthynas a theatr, addysg ac Astudiaethau Theatr.
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Mae'r medrau hyn yn ran allweddol o'r gwaith theoretig ac ymarferol, ac yn rhan gynhenid o weithgarwch ThMA: fe'u harddangosir, eu datblygu a'u hasesu'n barhaol yn ystod y modiwl. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Fe ystyrir hyfforddiant a datblygiad proffesiynol fel rhan o'r modiwl. Fe fydd cyd-destunau addysgiadol a therapiwtig a archwilir ar y cwrs yn galluogi'r myfyrwyr i fod yn fwy ymwybodol o opsiynau gyrfaol. |
Datrys Problemau | Disgwylir i'r myfyrwyr ddadansoddi a chyfrannu i'r broses o ddatrys problemau, gan ragweld ac ol-fyfyrio ar y profiad yn ystod y gweithdai, y sesiynau ymarferol a'r ymarferion dyfeisio ar gyfer y modiwl. Mae'r gallu i ystyried ac archwilio problemau yn ddyfais addysgiadol allweddol bwysig o'r broses ThMA, a astudir yn ddwys yn ystod y modiwl. |
Gwaith Tim | Trafodir y medrau hyn yn uniongyrchol ar y modiwl ac fe'u gwerthusir a'u hasesir mewn perthynas a'u cyfraniad tuag at y gwaith dosbarth a chreu'r dernyn ThMA ymarferol. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Fel rhan o fethodoleg ThMA, a methodau addysgiadol darganfyddol y mae'n eu hyrwyddo, fe fydd y myfyrwyr yn gwerthuso eu proses a'u perfformiad eu hunain fel tystiolaeth o'u dealltwriaeth o'r modiwl. |
Rhifedd | Fe gyfeirir yn benodol at gyllido prosiectau ThMA fel rhan o'r modiwl, ond nid asesir y medrau hyn yn uniongyrchol. |
Sgiliau pwnc penodol | Fe fydd Theatr-mewn-Addysg: Rhan 1 yn codi ymwybyddiaeth ar ran y myfyrwyr o ffurf cyfoes ar y theatr ac Astudiaethau Theatr gyda chysylltiadau cryf o safbwynt cenedlaethol a rhyngwladol. Fe fydd y broses o hyrwyddo gwaith theoretig ac ymarferol gan fyfyrwyr yn y maes hwn yn creu profiad sy'n cwmpasu dadansoddi, theori ac ymarfer. Fe fydd y myfyrwyr sy'n cymryd y modiwl hwn yn gwerthuso'r cymhlethdodau, y cysylltiadau a'r cymhariaethau rhwng theatr ac addysg. |
Sgiliau ymchwil | Datblygir y medrau hyn wrth baratoi ar gyfer darlithoedd, gweithdai a gwaith ymarferol, ac fel canlyniad i'r ysgogiadau creadigol a geir yn y sesiynau hyn hefyd. Asesie y medrau hyn fel rhan o'r traethawd a'r dernyn ymarferol. |
Technoleg Gwybodaeth | Ni ddysgir y medrau hyn yn uniongyrchol ar y modiwl; fodd bynnag, fe ddatblygir y sgiliau hyn yn anffurfiol gan y myfyrwyr wrth iddynt ymchwilio, casglu a threfnu gwybodaeth a chysylltu a ffynonellau ac adnoddau priodol. Disgwylir y bydd y myfyrwyr yn gwneud defnydd helaeth o'r rhyngrwyd yn ystod y modiwl i'r perwyl hwn. |
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5