Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Traethawd 2500 o eiriau | 50% |
Arholiad Semester | 2 Awr | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Unrhyw elfennau a fethwyd ynghynt |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Erbyn cwblhau`r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/wraig sy`n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni`r canlynol:
- arddangos eu dealltwriaeth a`u gwybodaeth o`r Theatr Ewropeaidd drwy ddadansoddi testunau dramataidd a`u gosod yng nghyd-destun datblygiad y cyfrwng yn y cyfnod dan sylw.
- ymateb yn feirniadol i`r deunydd astudiaeth drwy gymhwyso gwaith ysgolheigaidd yn y maes i`w gwaith ysgrifenedig
- Trafod y Ddrama fel amlygiad o fath ar Theatr i safon dderbyniol, gan fedru esbonio natur y berthynas gymhleth rhwng testun ysgrifenedig a chyfrwng celfyddydol fyw, ar lafar ac ar bapur
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6