Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | Darlith 1 x 2 awr yr wythnos |
Seminarau / Tiwtorialau | Seminar 1 x 1 awr yr wythnos |
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Os methir y modiwl oherwydd methiant i gyflwyno unrhyw elfen unigol o'r asesiad rhaid ail-gyflwyno'r gwaith hwnnw. Os methir y modiwl oherwydd methu'r elfen o asesu parhaol mewn seminarau, rhaid i'r myfyriwr sefyll arholiad llafar unigol yn ei lle. Os methir y modiwl oherwydd methu'r cyflwyniad grwp rhaid ail-sefyll y modiwl. | 100% |
Asesiad Semester | Cyfraniad i seminarau | 15% |
Asesiad Semester | Traethawd 3,000 o eiriau | 50% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad Grwp (20 munud) | 35% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr sy'n cyrraedd safon gyffredin fedru:
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Fe fydd ymchwil personol yn rhan bwysig o waith y myfyrwyr yn ystod y modiwl. Disgwylir iddynt sicrhau bod ganddynt fynediad i wybodaeth yngl¿n â rai o¿r materion diweddaraf o bwys yn y theatr gyfoes wrth iddynt baratoi ar gyfer seminarau, a bydd angen casglu a chrynhoi gwybodaeth o nifer o wahanol ffynonellau er mwyn cyflawni hyn. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Ni ddatblygir medrau penodol parthed cynllunio gyrfa yn y modiwl. Fel pob modiwl arall, disgwylir y bydd y modiwl hwn yn cyfrannu at ddatblygiad personol y myfyrwyr, ond ni roddir cyfarwyddyd pendant yn y modiwl hwn yngl¿n ag unrhyw faterion yn ymwneud â chofnodi datblygiad personol. |
Datrys Problemau | Ni fydd y modiwl hwn yn rhoi pwys arbennig ar ddatrys problemau fel y cyfryw, ond fe fydd yn siarsio¿r myfyrwyr i ddatblygu dulliau dadansoddiadol a fydd gymwys ar gyfer trafod materion cyfoes a chyfredol ym myd y theatr Gymraeg. |
Gwaith Tim | Fe rydd yr elfen o asesu cyflwyniad gr¿p gyfle i¿r myfyrwyr feithrin a datblygu¿r medrau hynny sy¿n angenrheidiol wrth gydweithio fel tîm: dosrannu gwaith, cyd-drafod, hunan-ddisgyblaeth a chyfraniad i gywaith a.y.b.. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Fe fydd y gwahanol elfennau o¿r asesiad ar gyfer y modiwl hwn yn rhoi cyfle a chyfrifoldeb ar y myfyrwyr i geisio gwella'u dysgu a'u perfformiad eu hunain. Trefnwyd elfennau¿r asesiad fel ag i alluogi¿r myfyrwyr i fanteisio ar y broses o gyflwyno deunydd mewn gr¿p wrth iddynt baratoi eu gwaith unigol eu hunain tua diwedd y modiwl. |
Sgiliau ymchwil | Fe fydd ymchwil personol yn rhan bwysig o waith y myfyrwyr yn ystod y modiwl. Disgwylir iddynt sicrhau bod ganddynt fynediad i wybodaeth yngl¿n â rai o¿r materion diweddaraf o bwys yn y theatr gyfoes wrth iddynt baratoi ar gyfer seminarau, a bydd angen casglu a chrynhoi gwybodaeth o nifer o wahanol ffynonellau er mwyn cyflawni hyn. |
Technoleg Gwybodaeth | Ni fydd y medrau hyn yn rhan ganolog o¿r modiwl, eithr disgwylir bod gan y myfyrwyr rywfaint o allu wrth brosesu geiriau erbyn y cyfnod hwn yn eu gyrfa golegol, ynghyd â¿r gallu i baratoi delweddau pwrpasol ar gyfer cyflwyniad llafar. |
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6