Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 2 Awr | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Os methir y modiwl oherwydd methiant i gyflwyno unrhyw elfen unigol or asesiad rhaid ail-gyflwynor gwaith hwnnw. Os bydd mwy nag un elfen wedii methu, rhaid ail-gyflwynor holl elfennau a fethwyd. Os methir y modiwl oherwydd methur elfen o asesu parhaol mewn seminarau, rhaid ir myfyrwyr sefyll arholiad llafar unigol. | |
Asesiad Semester | Cyfraniad i seminarau trwy gyfres o dasgau arbennig megis daprau rhestr ddarllen neu gasglu manylion bywgraffiadol | 20% |
Asesiad Semester | Traethawd o 2,000 o eiriau | 30% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
1. cyflwyno trafodaeth gynhwysfawr o werth y traddodiad dramataidd yng Nghymru ochr yn ochr a'r traddodiad Prydeinig ac Ewropeaidd;
2. llunio trafodaeth gytbwys yn ysgrifenedig ac ar lafar o'r berthynas rhwng yr elfennau cymdeithasol a'r elfennau artistig o fewn gwaith unrhyw un o'r dramodwyr a astudiwyd;
3. cymhwyso'r wybodaeth a gyflwynir yn y sesiynau dysgu wrth geisio tafoli dylanwad a gwerth y dramau a astudiwyd;
4. ymateb yn gryno a hyblyg i gwestiynau ynglyn a thechneg dramataidd y dramodwyr a astudiwyd, gan sylwi'n arbennig i ba raddau y mae gweledigaeth y cyfryw ddramodwyr yn gynnyrch eu cymdeithas, ac i ba raddau y mae'n gwrthdaro a'u cymdeithas.
Yn y modiwl hwn astudir dramau Gymraeg yr ugeinfed ganrif yng nghyd-destun gorolwg o ddatblygiad Theatr Gymraeg yn ystod y ganrif ddiwethaf. Yn narlithoedd y modiwl, edrychir ar ddadeni'r mudiad drama ar droad y ganrif gan rhoi sylw arbennig i'r modd roedd y datblygiad hwn yn agwedd ar ddadeni cenedlaethol ehangach. Bydd darlithoedd y modiwl yn canoli ar y broses o ddeffro ac wedyn o berffeithio'r awen ddramataidd yng Nghymru gan rhoi sylw arbennig i'r cynnydd yn y grefft o ysgrifennu drama a gymerodd le yn raddol trwy gydol y ganrif. Trinir a thrafodir y dramau unigol o safbwynt thema, ffurf ac arddull a roddir sylw arbennig i'r argraff a greir wrth ystyried y gwaith at ei gilydd o safbwynt dilyniant a datblygiad y genre dros y ganrif. Rhoddir pwyslais ar arsylwi ac asesu ymateb cyfredol i'r dramau yn ystod cyfnod eu hysgrifennu yn ogystal a datblygu agwedd beirniadol tuag atynt o safbwynt darllenwyr yr Ugeinfed ganrif ar hugain.
Bwriad y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i hanes y ddrama Gymraeg gan rhoi cyd-destun iddynt ar gyfer eu profiad cyfredol o ddrama a theatr yng Nghymru a chyflwyniad i'r astudiaeth pellach o'r maes a gynigir trwy gyfrwng y modiwl Theatr Cymru Gyfoes. Mae'r modiwl yn rhoi gafael I fyfyrwyr ar hanes, traddodiad a datblygiad y ddrama yng Nghymru yn ystod yr Ugeinfed ganrif ac yn canoli ar feithrin sgiliau dadansoddiadol mewn perthynas a thestustunau penodol yn ogystal a datblygu'r gallu i ddadansoddi cynnyrch dramataidd y cyfnod at ei gilydd yng nghyd-destun datblygiadau cymdeithasol, economaidd a diwylliannol ehangach yn ystod y cyfnod perthnasol.
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6