Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 10 x 2 awr |
Seminarau / Tiwtorialau | 10 x 1 awr |
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Traethawd 2500 o eiriau | 50% |
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad 2 awr | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Rhaid ail-gyflwyno'r traethawd neu ail-sefyll yr arholiad ysgrifenedig. | 100% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Arddangos dealltwriaeth a gwybodaeth o'r Theatr Ewropeaidd drwy ddadansoddi testunau dramataidd a'u gosod yng nghyd-destun datblygiad y Theatr Ewropeaidd yn y cyfnod dan sylw;
2. Ymateb yn feirniadol i'r deunydd astudiaeth drwy gymhwyso gwaith ysgolheigaidd yn y maes, yn ogystal a'u triniaeth ddadansoddol o'r testun dramataidd, i waith ysgrifenedig;
3. Mynegi amgyffrediad o'r ddrama fel amlygiad o fath ar theatr, gan esbonio natur y berthynas gymhleth rhwng testun ysgrifenedig a chyfrwng celfyddydol byw, ar lafar ac ar babur.
Bwriad y modiwl fydd cynnig sylfaen academaidd i feithrin dealltwriaeth o ddatblygiadau ym myd y theatr y bewdwaredd ganrif ar bymtheg i'r cyfnod cyn yr Ail Ryfel Byd, trwy astudio gwaith rhai o brif ddramodwyr y cyfnod hwnnw.
Rydym yn awyddus i sicrhau bod y myfyrwyr a'r gallu i werthfawrogi'r berthynas rhwng y ddamcaniaeth hanesyddol theatraidd, y digwyddiadau theatraidd cymhleth a datblygiadau ffurfiau perfformio (Realaeth, Naturiolaeth, Mynegiadaeth a'r Theatr Epig). Mae'r wybodaeth hon yn gysylltiedig ac yn gymwys i'r ran fwyaf o'r modiwlau Astudiaethau Theatr.
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Ysgrifenedig: bydd ymdrech i gyflwyno trafodaeth feirniadol wrth ysgrifennu traethodau. Ar lafar: cyfraniad dosbarth a chydweithrediad yn ystod seminarau. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Ni ddatblygir y medrau hyn yn uniongyrchol yn y modiwl ond bydd lawer o'r sgiliau generig a ddatblygwyd ar y modiwl hwn yn drosglwyddadwy i sawl cyd-destun gyrfaol. |
Datrys Problemau | Datblygir y medrau hyn (yn ysgrifenedig ac ar lafar) wrth i'r myfyrwyr gymhwyso esboniadau a diffiniadadau'r moddau perfformio sydd yn gysylltiedig a'r testunau a ddysgwyd ar y modiwl. |
Gwaith Tim | Datblygir y medrau hyn yn uniongyrchol trwy'r cyfraniad dosbarth. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Ymchwilio'n annibynnol: adborth tiwtor i'w gwaith ysgrifenedig a'u cyfraniad dosbarth a disgwylir datblygiad pendant o'r naill asesiad i'r llall o ran meistrolaeth y myfyrwyr ar eu deunydd. Datblygir eu sgiliau gwaith a'u defnydd o amser wrth baratoi ar gyfer eu cyfraniad dosbarth, seminarau a darlithoedd. |
Rhifedd | Ni ddatblygir y medrau hyn yn uniongyrchol yn y modiwl, er bod yr Adran yn mynnu bod gwaith ysgrifenedig yn cael ei gyflwyno mewn ffurf sydd wedi ei argraffu gan ddefnyddio prosesydd geiriau. |
Sgiliau pwnc penodol | Fe fydd dadansoddiad o destunau theatr yn y dosbarth a thrwy asesiadau ysgrifenedig. Trwy annog myfyrwyr i ystyried moddau perfformio diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd at y cyfnod cyn yr Ail Rhyfel Byd fe all y myfyrwyr adeiladu gwybodaeth fanwl o destunau theatraidd yn eu cyd-destun cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol. |
Sgiliau ymchwil | Datblygir y medrau hyn wrth i'r darlithoedd, seminarau a'r asesiadau hybu a hyrwyddo myfyrdod a sylwadaeth ar gysyniadau allweddol a datblygiadau arwyddocaol mewn damcaniaeth ac ymarfer theatraidd o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg i'r cyfnod cyn dechrau'r Ail Rhyfel Byd. |
Technoleg Gwybodaeth | Ni ddatblygir y medrau hyn yn uniongyrchol yn y modiwl. Fe all myfyrwyr sy'n dewis hynny wneud defnydd arbennig o ddulliau a chyfryngau technoleg gwybodaeth wrth lunio'u cyfraniad dosbarth. |
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6