Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
DD31130
Teitl y Modiwl
THEATR EWROP FODERN
Blwyddyn Academaidd
2008/2009
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Rhagofynion
Cwblhau Rhan 1 yn llwyddiannus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 10 x 2 awr
Seminarau / Tiwtorialau 10 x 1 awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Traethawd 2500 o eiriau  50%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad 2 awr  50%
Asesiad Ailsefyll Rhaid ail-gyflwyno'r traethawd neu ail-sefyll yr arholiad ysgrifenedig.  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Arddangos dealltwriaeth a gwybodaeth o'r Theatr Ewropeaidd drwy ddadansoddi testunau dramataidd a'u gosod yng nghyd-destun datblygiad y Theatr Ewropeaidd yn y cyfnod dan sylw;

2. Ymateb yn feirniadol i'r deunydd astudiaeth drwy gymhwyso gwaith ysgolheigaidd yn y maes, yn ogystal a'u triniaeth ddadansoddol o'r testun dramataidd, i waith ysgrifenedig;

3. Mynegi amgyffrediad o'r ddrama fel amlygiad o fath ar theatr, gan esbonio natur y berthynas gymhleth rhwng testun ysgrifenedig a chyfrwng celfyddydol byw, ar lafar ac ar babur.

Disgrifiad cryno

Bwriad y modiwl fydd cynnig sylfaen academaidd i feithrin dealltwriaeth o ddatblygiadau ym myd y theatr y bewdwaredd ganrif ar bymtheg i'r cyfnod cyn yr Ail Ryfel Byd, trwy astudio gwaith rhai o brif ddramodwyr y cyfnod hwnnw.

Nod

Rydym yn awyddus i sicrhau bod y myfyrwyr a'r gallu i werthfawrogi'r berthynas rhwng y ddamcaniaeth hanesyddol theatraidd, y digwyddiadau theatraidd cymhleth a datblygiadau ffurfiau perfformio (Realaeth, Naturiolaeth, Mynegiadaeth a'r Theatr Epig). Mae'r wybodaeth hon yn gysylltiedig ac yn gymwys i'r ran fwyaf o'r modiwlau Astudiaethau Theatr.

Cynnwys

Ceir deg darlith/seminar ar y canlynol:

1. Goethe, J.W.F., Faust: Rhan I
(Canolfan Adnoddau Addysg: 1994)
2. Buchner, Georg, Woyzeck
(Penguin, 1993)
3. Ibsen, Henrik, Ty Dol
4. Strindberg, August, Miss Jiwli
5. Ibsen, Henrik, Ghosts
6. Wedekind, Frank, Deffro'r Gwanwyn
(Spring Awakening: Faber and Faber, 1995)
7. Kaiser, Georg, O Fore Tan Ganol Nos
(From Morn to Midnight: ar gael o'r Adran)
8. Lorca, Priodas Waed
9. Brecht, Bertolt, Y Fam Gwroldeb a'i phlant
(Mother Courage: Methuen Drama, 1995)
10. Weiss, Peter, Marat Sade

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Ysgrifenedig: bydd ymdrech i gyflwyno trafodaeth feirniadol wrth ysgrifennu traethodau. Ar lafar: cyfraniad dosbarth a chydweithrediad yn ystod seminarau.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Ni ddatblygir y medrau hyn yn uniongyrchol yn y modiwl ond bydd lawer o'r sgiliau generig a ddatblygwyd ar y modiwl hwn yn drosglwyddadwy i sawl cyd-destun gyrfaol.
Datrys Problemau Datblygir y medrau hyn (yn ysgrifenedig ac ar lafar) wrth i'r myfyrwyr gymhwyso esboniadau a diffiniadadau'r moddau perfformio sydd yn gysylltiedig a'r testunau a ddysgwyd ar y modiwl.
Gwaith Tim Datblygir y medrau hyn yn uniongyrchol trwy'r cyfraniad dosbarth.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Ymchwilio'n annibynnol: adborth tiwtor i'w gwaith ysgrifenedig a'u cyfraniad dosbarth a disgwylir datblygiad pendant o'r naill asesiad i'r llall o ran meistrolaeth y myfyrwyr ar eu deunydd. Datblygir eu sgiliau gwaith a'u defnydd o amser wrth baratoi ar gyfer eu cyfraniad dosbarth, seminarau a darlithoedd.
Rhifedd Ni ddatblygir y medrau hyn yn uniongyrchol yn y modiwl, er bod yr Adran yn mynnu bod gwaith ysgrifenedig yn cael ei gyflwyno mewn ffurf sydd wedi ei argraffu gan ddefnyddio prosesydd geiriau.
Sgiliau pwnc penodol Fe fydd dadansoddiad o destunau theatr yn y dosbarth a thrwy asesiadau ysgrifenedig. Trwy annog myfyrwyr i ystyried moddau perfformio diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd at y cyfnod cyn yr Ail Rhyfel Byd fe all y myfyrwyr adeiladu gwybodaeth fanwl o destunau theatraidd yn eu cyd-destun cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol.
Sgiliau ymchwil Datblygir y medrau hyn wrth i'r darlithoedd, seminarau a'r asesiadau hybu a hyrwyddo myfyrdod a sylwadaeth ar gysyniadau allweddol a datblygiadau arwyddocaol mewn damcaniaeth ac ymarfer theatraidd o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg i'r cyfnod cyn dechrau'r Ail Rhyfel Byd.
Technoleg Gwybodaeth Ni ddatblygir y medrau hyn yn uniongyrchol yn y modiwl. Fe all myfyrwyr sy'n dewis hynny wneud defnydd arbennig o ddulliau a chyfryngau technoleg gwybodaeth wrth lunio'u cyfraniad dosbarth.

Rhestr Ddarllen

Testun A Argymhellwyd
Bergson, Henri (1911.) Laughter :an essay on the meaning of the comic /by Henri Bergson; authorised translation by Cloudesley Brereton and Fred Rothwell. Macmillan Chwilio Primo Broers, Michael. (1996.) Europe after Napoleon : revolution, reaction, and romanticism, 1814-1848 /Michael Broers. Manchester University Press Chwilio Primo Brown, Marsall (editor) (2000.) The Cambridge history of literary criticism.edited by Marshall Brown. Cambridge University Press Chwilio Primo Chadwick, Charles. (1971 (1985 prin) Symbolism /[by] Charles Chadwick. Methuen Chwilio Primo Coleman, P, Lewis, J, Kowalik, J (eds) (2000.) Representations of the self from the Renaissance to Romanticism /edited by Patrick Coleman, Jayne Lewis, and Jill Kowalik. Cambridge University Press Chwilio Primo Cox, Jeffrey N. (1987.) In the shadows of romance :romantic tragic drama in Germany, England and France /Jeffrey N. Cox. Ohio University Press Chwilio Primo Furst, Lilian R. (1971.) Naturalism /Lilian R. Furst and Peter N. Skrine. Methuen Chwilio Primo Garten, Hugh F. (1964.) Modern German drama /H.F. Garten. Methuen Chwilio Primo Postlethwaite, T (1986) Prophet of the New Drama: William Archer and the Ibsen Campaign Greenwood Press Chwilio Primo Prudhoe, John. (1973.) The theatre of Goethe and Schiller /John Prudhoe. Blackwell Chwilio Primo Sprinchorn, E. (1965) Ibsen: Letters and Speeches McGibbon & Kee Chwilio Primo Steiner, George (1961.) The death of tragedy /George Steiner. Faber and Faber Chwilio Primo Szondi, Peter. (1987 (various p) Theory of the modern drama :a critical edition /Peter Szondi; edited and translated by Michael Hays; foreword by Jochen Schulte-Sasse. University of Minneapolis Press Chwilio Primo Tarnas, Richard. (1996.) The passion of the western mind : understanding the ideas that have shaped our world view. Pimlico Chwilio Primo Williams, Raymond (1973) Drama from Ibsen to Brecht /[by] Raymond Williams. Penguin Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6