Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Erbyn cwblhau`r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/wraig sy`n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni`r canlynol:
- cydweithio fel aelod o grwp creadigol
- meithrin sgiliau penodol yn ol gofynion y cynhyrchiad
- ymateb yn greadigol a chadarnhaol i gyfarwyddyd ymarferol
Disgrifiad cryno
Yn y modiwl hwn, bydd myfyrwyr yn cael cyfle i gyflwyno cynhyrchiad theatraidd gerbron cynulleidfa gyhoeddus. Disgwylir cydweithrediad y grwp yn y modiwl hwn gan fod y cyfarwyddydd yn gweithion gyda'r cwmni fel ensemble. fe fydd syniadau a chyfraniadau'r unigolyn yn cael eu parchu, yn aml byddant yn ymddangos fel rhan o'r cynhyrchiad gorffenedig.
Nod
Ein nod wrth gyflwyno`r modiwl hwn yw eich galluogi i wneud y canlynol:
- deall gofynion y gwaith ymarferol
- cynhwyso a datblygu`r gofynion hynny wrth berfformio`n gyhoeddus
- creu rol i chi eich hunan o fewn y grwp er lles y cynhyrchiad
Cynnwys
Pwysleisir cydweithrediad grwp yn y modiwl hwn, a chyflwynir technegau neilltuol yn ymwneud a chyd-gyflwyno gwaith ymarferol. Disgwylir i fyfyrwyr gymryd y cyfrifoldeb dros eu gwaith creadigol eu hunain, gan fod yn atebol i aelodau eraill y grwp creu a chyd-drafod eu gwaith yn fanwl. Yn yr wyth sesiwn dwy awr wythnosol, byddwch yn ymchwilio i`r technegau a`r methodolegau a ddefnyddir yn y cynhyrchiad ac yn datblygu`r technegau hynny.