Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Erbyn cwblhau`r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/wraig sy`n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni`r canlynol:
- amlygu eu gallu i gyfansoddi sgor perfformio, yn seiliedig ar fethodau neilltuol
- arddangos eu cyfrifoldeb personol, yn unigol ac o fewn grwp, mewn ymarferion ac mewn perfformiadau, ac amlygu eu bod yn deall gofynion y broses greu
- arddangos eu hynwybyddiaeth o`r berthynas anatod rhwng hyfforddiant a pherfformiad, o safbwynt eu hymarfer a`u myfyrdod beirniadol ar yr ymarfer hwnnw
- arddangos sgiliau perfformio neilltuol, gan amlygu gallu corfforol a lleisiol datblygiedig
Disgrifiad cryno
Yn y modiwl hwn rhoddir y cyfle i chi ymarfer eich arbenigedd yn y maes perfformio i lefel ddatblygiedig. Canolbwyntir ar waith unigol yn y modiwl hwn, gan roi cyfle i chi greu sgor perfformio manwl, a chymeriad cymhleth, yn seiliedig ar fethodau neilltuol. Archwilir y cysyniad o destun yng ngwaith y perfformiwr ac asesir y berthynas rhwng testun y ddrama, testun y perfformiwr a thestun y perfformiad.
Nod
Ein nod wrth gyflwyno`r modiwl hwn yw eich galluogi i gyflawni`r canlynol:
- paratoi myfyrwyr yn ofalus yn gorfforol ac emosiynol yn ol gofynion eu rol
- galluogi myfyrwyr i adfyfyrio a dadansoddi eu gwaith creadigol i safon uchel
- archwilio ag ymestyn corff y perfformiwr fel offeryn cynrychiadol
Cynnwys
Ein nod wrth gyflwyno'r modiwl hwn yw eich galluogi i gyflawni'r canlynol:
- paratoi yn ofalus yn gorfforol ac emosiynol yn ol gofynion eich rol
- adfyfyrio a dadansoddi eich gwaith creadigol i safon uchel
- archwilio a myfyrio ar gorff y perfformiwr fel offeryn cynrychioliadol