Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Erbyn cwblhau`r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/wraig sy`n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni`r canlynol:
- cydweithio fel rhan o grwp creadigol i sylweddoli prosiect ymarferol i bobl ifainc.
- paratoi deunyddiau perthnasol fel ffordd o gefnogi`r prosiect ymarferol.
- arddangos ymwybyddiaeth o'r maes Theatr Mewn Addysg, ei swyddogiaeth, ei dechnegau perfformio amrywiol a'i effaith, trwy draethawd ysgrifenedig
- arddangos sgiliau dehongli a pherfformio arbennig ar gyfer Theatr Mewn Addysg, gan gymryd cyfrifoldeb am benderfyniadau creadigol ac addysgiadol yn eu cywaith ymarferol
- Gwerthuso eu gwaith ymarferol ac asesu priodolrwydd eu cywaith, ar lafar ac ar bapur
- trefnu ei g/waith ymchwil a sgriptio, a chadw nodiadau manwl neu gofnod ysgrifenedig o'r gwaith archwilio a pharatoi'r cywaith ymarferol, sy'n amlygu ei c/gyfraniad personol i'r cywaith a'i gwerthusiad ohono.
Disgrifiad cryno
Yn y modiwl hwn bydd myfyrwyr yn cael cyfle i deithio rhaglen Theatr mewn Addysg o gwmpas ysgolion Cynradd neu Uwchradd. Pwysleisir cydweithrediad grwp yn y modiwl a rhoddir cyfleoedd i'r unigolion ymgymryd a tasgiau fel cyfarwyddo, perfformio, ymchwilio, dyfeisio, sgriptio, cynllunio gwisgoedd a set, gwaith cyswllt gydag ysgolion a.y.b.
Nod
Nod yr Adran wrth gyflwyno`r modiwl hwn yw:
- edrych ar y diwydiant addysg ac archwilio ei natur, ei swyddogaeth a`i effaith
- ystyried Theatr Mewn Addysg fel ffenomen theatraidd, fel amlygiad o ddiwylliant ac fel cangen o astudiaethau perfformio
- darganfod pwysigrwydd a pherthnasedd y fath fenter yng Nghymru
- archwilio amlygiadau gwahanol o`r weithred theatraidd a chofnodi`r cysylltiadau a`r gwrthbwynt rhwng theatr, addysg, drama, perfformio, gwleidyddiaeth a chymdeithaseg
Cynnwys
Byddwch yn mynuchu nifer o ddarlithoedd ac yn creu prosiect ymarferol. Er mwyn creu'r prosiect hwnnw byddwch yn ymweld ag ysgolion o bob math, ac os yn bosibl fe fydd cyfleoedd i fynychu perfformiadau byw. yn ystod cyfnod y prosiect disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio a chreu eu gwaith yn drylwyr gan gadw cofnod o'r broses. Ceir cyfnod gwaith yn ymarfer a pherfformio yn dilyn hynny.
Fydd y darlithoedd/gweithdai yn cynnwys y sesiynau canlynol:
Hanes Theatr Mewn Addysg
Drama Mewn Addysg a theatr Mewn Addysg
Dulliau a Fframweithiau Theatr Mewn Addysg (i)
Dulliau a Fframweithiau Theatr Mewn Addysg (ii)
Ystyr(on) y Perfformiad: Dadansoddi a Gwerthuso
Theatr Mewn Addysg a Theatr i Bobl Ifainc
Agweddau Ewropeaidd
Beth am y Dyfodol?