Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | ARDDANGOSIAD YMARFEROL Gwaith Arddangosfa: | 50% |
Asesiad Semester | TRAETHAWD (2500) Traethodau: | 50% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Erbyn cwblhau`r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/wraig sy`n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni`r canlynol:
- arddangos dealltwriaeth o`r sgiliau priodol, a`r ystod o bosibiliadau ar gael i`r cyfarwyddydd wrth ddehongli testun i`w berfformio
- traethu ar ddatblygiad a thwf y cysyniad a`r ymarfer o gyfarwyddo yn y Theatr Orllewinol ar hyd yr ugeinfed ganrif hyd heddiw
- dangos eu bod yn gyfrifol am eu gwaith creadigol eu hunain ac amlygu ymwybyddiaeth feirniadol o`r gwaith hwnnw mewn trafodaethau
- amlygu, drwy waith ymarferol, eu hymwybyddiaeth o ddulliau cyfarwyddo amrywiol a perthynas y cyfryw ddulliau a gwahanol fathau o theatr
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6