Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Y Broses Ymarfer: datblygiad a chynnydd y myfyriwr yn ystod y broses baratoi ac ymarfer | 50% |
Asesiad Semester | Cymhwyso'r egwyddorion a'r sgiliau a ddysgwyd yn ystod y broses ymarfer wrth gyflawni'r gwaith cyhoeddus terfynol | 30% |
Asesiad Semester | Arholiad Llafar a Llawlyfr | 20% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. arddangos gallu i weithio'n gydweithredol gyda gweddill y grwp dyfeisio dan oruchwyliaeth y cyfarwyddwr/hyrwyddwr er mwyn ymchwilio, dyfeisio a chyflwyno darn o theatr ar gyfer cynulleidfa neilltuol;
2. cynhyrchu cyfres o nodiadau ysgrifenedig sy'n berthnasol i'r prosiect, yn aml o dan amodau gweithdy;
3. cymhwyso, datblygu ac ymestyn y sgiliau allweddol a gyflwynwyd iddynt yn ystod y modiwlau Lefel 2 priodol yn ystod yr ail flwyddyn;
4. cymhwyso a chynnal y sgiliau sydd eu hangen er mwyn cyflawni amryw fath ar rol ymarferol o fewn cyfres o berfformiadau byw;
5. adfyfyrio ar eu cyfraniad i'r broses baratoi, ymarfer a chyflwyno a chofnodi'r myfyrion hyn mewn arholiad llafar ac ar ffurf llyfr nodiadau.
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Mae datblygu ac ymestyn sgiliau cyfathrebu yn allweddol bwysig ar gyfer pob agwedd ar greu cynhyrchiad, boed hynny'n gyfathrebu a'r gynulleidfa drwy berfformio, cyflwyno gweledigaeth o gynnwys golygfa wrth yfwryddo neu gyfathrebu ag aelodau tim dylunio wrth weithio'n dechnegol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Ni cheir unrhyw ymwrwymiad ffurfiol na swyddogol i'r ddatblygiad personol a chynllunio gyrfa yn y modiwl; fodd bynnag, gellir trosglwyddo nifer fawr o'r sgiliau cyffredinol ac arbenigol a feithrinir yn ystod y prosiect hwn a'u cynhwyso ar gyfer nifer o amgylchiadau gwahanol, gan gynnwys rhai gyrfaol. |
Datrys Problemau | Fe ddatblygir y sgiliau hyn wrth i'r myfyrwyr ymateb i'r gwahanol fathau o her a gyfyd yn ystod y broses baratoi, ymarfer a chyflwyno ar gyfer y prosiect ymarferol. |
Gwaith Tim | Mae'r gallu i weithio fel aelod o dim creadigol yn allweddol bwysig ar gyfer pob agwedd ar waith cynhyrchu; ac fe fydd sgiliau arwain tim a chydweithio fel rhan o dim yn rhan bwysig o'r meini prawf ar gyfer asesiadau'r modiwl. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Fe gedwir golwg ar ddatblygiad y myfyrwyr yn ystod y broses ymarfer a gofynnir iddynt adfyfyrio ar eu cyfraniad i'r prosiect wirth iddo ddatblygu. |
Rhifedd | Fe all fod medrau monitro cyllid prosiect yn berthnasol yma, ond ni ddatblygir y sgiliau hyn yn ffurfiol, ac nid asesir hwy, yn y modiwl. |
Sgiliau pwnc penodol | Fe fydd y modiwl yn datblygu ac ymestyn gallu'r myfyrwyr i gyfathrebu a chynulleidfa trwy nifer o wahanol ddulliau ymarferol, ac yn datblygu'u dealltwriaeth o'r theatr fel arf gyfathrebu. |
Sgiliau ymchwil | Fe ddatblygir sgiliau ymchwil wrth baratoi ar gyfer ymarferion y prosiect; ond nid asesir y sgiliau hyn yn uniongyrchol. |
Technoleg Gwybodaeth | Fe all myfyrwyr ganfod a defnyddio deunyddiau ar-lein wrth baratoi a chyflwyno'r prosiect hwn (e.e. wrth baratoi gwaith sain a.y.b.); ond nid asesir y sgiliau hyn yn uniongyrchol. |
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6