Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 40 darlith |
Eraill | Gweithdai Wythnosol |
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 3 Awr Arholiad diwedd semester | 60% |
Asesiad Semester | Taflenni Enghreifftiau. Nodir y dyddiadau cyflwyno yn amserlen Taflenni Enghreifftiau Blwyddyn 1 a ddosberthir gan yr Adran Gwaith Cwrs: | 30% |
Asesiad Semester | Prawf ar ddiwedd Tymor 1 | 10% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
* ddeall technegau elfennol ar gyfer datrys problemau mathemategol
* allu defnyddior'r dulliau priodol i ddatrys problemau syml yn y Gwyddorau Ffisegol
Mae'r gallu i ddatrys problemau mathemategol yn sgil sylfaenol yn y Gwyddorau Ffisegol ac yn werthfawr yn y man gwaith. Mae'r modiwl wedi ei anelu at alluogi myfyrwyr i ddefnyddio technegau mathemategol i ddatrys problemau yn y Gwyddorau Ffisegol. Bydd darpariaeth drwy gyfrwng cyfres o ddarlithoedd, gweithdai wythnosol a thaflenni enghreifftiau.
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4