Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Sesiwn Ymarferol | 20 awr gweithdai |
Seminarau / Tiwtorialau | Tiwtorials unigol |
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Ffolio. Beth sydd yn y ffolio? Dadansoddiad o'r broses o weithio at lunio naratif a sgript deg munud. Disgwylir i chi gynnwys esiamplau o'r prosesau a'r ymarferion a wnaed yn ystod y flwyddyn. | 50% |
Asesiad Semester | Sgript ffilm hyd at 10 munud ar gyfer sgrin neu deledu. | 50% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Erbyn cwblhau`r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/wraig sy`n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni`r canlynol:
- dangos dealltwriaeth o`r broses naratif
- dangos dealltwriaeth o`r broses sgriptio
- creu sgript 10 munud o hyd
- dangos gallu i feirniadu'n adeiladol gwaith eraill
Modiwl ymarferol sy'n mynd a chi gam wrth gam ar hyd y broses o lunio sgript deg munud: testun, stori, strwythur, plot, cymeriad, technegau, naratif, cyflwyniad a fformat. Fe gewch gyfle i ddatblygu'r syniadau am sgriptio mewn darlithoedd/gweithdai i fagu sgiliau perthnasol trwy'r ymarferion a'r asesiadau.
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5