Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Erbyn cwblhau`r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/wraig sy`n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni`r canlynol:
- Deall rhai o`r cysyniadau a`r prosesau sydd ynghlwm wrth gynhyrchu drama deledu a ffilm.
- `Cyfieithu` a throsglwyddo syniad ar bapur i fod yn gynhyrchiad teledu.
- Cynllunio a chreu cynhyrchiad drama deledu.
Defnyddio offer cynhyrchu yn ofalus ac yn greadigol.
Disgrifiad cryno
Trafodir nifer o bynciau yn ystod y modiwl, gan gynnwys ffyrdd o greu cynnyrch clyweledol, cynhyrchu triniaeth ac ysgrifennu sgript, trefniant cynhyrchu, dylunio set, cyfarwyddo camera sengl. gweithio gydag actorion, camerau, a lleoliad, recordio sain ar leoliad, golygu digidol, gosod trac a throsleisio.
Fydd rhaid I fyfyrwyr I ddatblygu eu sgiliau o'r modiwl FT10320 a ddysgu sgiliau newydd mewn gweithdai a thrwy gwnued aseiniadau ymarferol. Fydd rhaid iddynt weithio mewn grwpiau I greu cynhyrchiad teledu o 8 -12 munud.
Nod
Ein nod wrth gyflwyno`r modiwl hwn yw:
Datblygu dealltwriaeth o`r cysyniadau creadigol a thechnegol a`r prosesau sydd ynghlwm wrth gynhyrchu ffuglen ar y teledu.
Datblygu sgiliau sydd eu hangen er mwyn trawsnewid syniadau ar gyfer teledu ffuglem i gynnyrch clyweled.
Trafod creu arddull, fformat a naratif mewn cynhyrchu ffilm a theledu.
Ystyried methodoleg gonfensiynol ac anghonfensiynol cynhyrchu ffilm a theledu.