Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 10 x 1 awr |
Seminarau / Tiwtorialau | 10 x 2 awr |
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Os methir y modiwl oherwydd methiant i gyflwyno'r asesiad, neu oherwydd marc isel, rhaid ail-gyflwyno'r gwaith hwnnw. | |
Asesiad Semester | Portffolio (5000 o eiriau) | 100% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Arddangos dealltwriaeth o'r ystod o sgiliau ymarferol sydd yn sylfaenol i newyddiadurwyr
2. Arddangos eu gallu i ddefnyddio amryw o'r dulliau a gyflwynwyd, wrth greu darnau o waith newyddiadurol gwreiddiol
3. Dadansoddi a chymhwyso cyweiriau newyddiadurol, ac arddangos y gallu i weithio o fewn canllawiau arddull
Amcan y modiwl hwn yw cyflwyno ar lefel sylfaenol nifer o sgiliau newyddiadurol fydd yn ddefnyddiol ar draws ystod o swyddi yng Nghymru a thu hwnt.
Gellir rhannu'r sgiliau a gyflwynir i'r rhai sydd yn ymwneud a iaith ac arddull, a'r rhai mwy cyffredinol newyddiadurol sydd ambell waith yn gorgyffwrdd a meysydd dylunio a thechnoleg.
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd y myfyrwyr yn cael cyfle helaeth i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu, yn ysgrifenedig ac ar lafar. Trwy gydol y modiwl, bydd ymarferion dadansoddi testunau newyddiadurol o ran ieithwedd a chywair, a bydd gofyn i'r myfyrwyr cymhwyso'n ymarferol, trwy eu gwaith portffolio, yr hyn maen nhw wedi'i ddysgu. Bydd pwyslais hefyd ar dechnegau cyfweld, sy'n gofyn am safon uchel o sgiliau cyfathrebu, a bydd gofyn i'r myfyrwyr gyfathrebu'n effeithiol ag unigolion y tu fas i'r brifysgol wrth baratoi'r portffolio. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd y modiwl yn cyflwyno nifer o sgiliau ymarferol a all fod yn ddefnyddiol mewn gyrfa newyddiadurol, ac mi ddylai galluogi i'r myfyrwyr ddatblygu ymwybyddiaeth o'u medrau a chryfderau personol yng nghyswllt gyrfa, neu astudiaeth pellach, yn y maes. |
Datrys Problemau | Mae pwyslais y modiwl hwn ar sgiliau ymarferol, felly mi fydd cyfle i'r myfyrwyr cynnig atebion i broblemau sy'n codi'n ddamcanieithol yn ystod y trafodaethau yn y seminarau, a gwerthuso manteision ac anfanteision posib. Wrth ddefnyddio sgiliau ymarferol i baratoi'r darnau ar gyfer y poerffolio, bydd gofyn i'r myfyrwyr ddatblygu meddylfryd creadigol at ddatrys problemau. |
Gwaith Tim | Bydd rhywfaint o waith grwp yn codi o fewn y seminarau, ond ni chaiff y medrau hyn eu hasesu'n uniongyrchol. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd cyfle i fyfyrwyr wella'u perfformiad o fewn cyd-destun y darlithiau a'r seminarau - cyfrannu'n fwy effeithiol i'r trafodaethau, paratoi'n well at yr ymarferion ysgrifennu ac ati. Bydd y gwaith ymarferol yn y seminarau yn caniatau i'r myfyrwyr fesur a gwella'u perfformiad, ond ni fydd y medrau hyn yn cael eu hasesu'n uniongyrchol. |
Rhifedd | Ni fydd pwyslais ar ddehongli gwybodaeth fathemategol nac ystadegol yn y modiwl hwn. |
Sgiliau pwnc penodol | |
Sgiliau ymchwil | Bydd sgiliau ymchwil yn elfen anhepgor o'r modiwl wrth i'r myfyrwyr paratoi eu portffolio - yn ymchwil i ffynonellau newyddion, unigolion i'w cyfweld, lluniau ac ati. Bydd angen i'r myfyrwyr fynd ati i gynllunio a chyflawni ymchwil ymarferol, a defnyddio canlyniadau'r ymchwil i gynhyrchu darnau o waith newyddiadurol. |
Technoleg Gwybodaeth | O ran gwneud gwaith ymchwil newyddiadurol a darllen cefndirol arlein, ac o ran cyflwyno gwaith ysgrifenedig drwy ddefnyddio prosesu geiriau, bydd y myfyrwyr yn defnyddio medrau technoleg gwybodaeth. Wrth baratoi eu portffolio , bydd angen i'r myfyrwyr gyfathrebu ag unigoloion a sefydliadau allanol, mwy na thebyg srwy e-bost. |
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5