Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
FT24020
Teitl y Modiwl
SGILIAU NEWYDDIADUROL YMARFEROL
Blwyddyn Academaidd
2008/2009
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Ar gael yn semester 1 a 2
Rhagofynion
FT11020
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 10 x 1 awr
Seminarau / Tiwtorialau 10 x 2 awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Os methir y modiwl oherwydd methiant i gyflwyno'r asesiad, neu oherwydd marc isel, rhaid ail-gyflwyno'r gwaith hwnnw. 
Asesiad Semester Portffolio (5000 o eiriau)  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Arddangos dealltwriaeth o'r ystod o sgiliau ymarferol sydd yn sylfaenol i newyddiadurwyr
2. Arddangos eu gallu i ddefnyddio amryw o'r dulliau a gyflwynwyd, wrth greu darnau o waith newyddiadurol gwreiddiol
3. Dadansoddi a chymhwyso cyweiriau newyddiadurol, ac arddangos y gallu i weithio o fewn canllawiau arddull

Nod

Amcan y modiwl hwn yw cyflwyno ar lefel sylfaenol nifer o sgiliau newyddiadurol fydd yn ddefnyddiol ar draws ystod o swyddi yng Nghymru a thu hwnt.

Cynnwys

Darlithiau

1. Casglu newyddion: ymchwil cefndirol a ffynonellau newyddion
2. Technegau cyfweld
3. Erthyglau nodwedd a chefndirol
4. Adroddiadau Cymraeg a chwestiynau cyfieithi
5. Comisiynu gwaith allanol
6. Cyweiriau newyddiadurol, canllawiau arddull, a iaith gynhwysol
7. Is-olygu testun, ysgrifennu penawdau a chapsiynau
8. Newyddiadura ar-lein
9. Llun a thestun: ymchwil lluniau a chwestiynau hawlfraint
10.Llunio'r tudalen: mewn papur newydd, mewn cylchgrawn ac ar y we

Seminarau

Bydd y seminarau yn trafod ymarferion ysgrifennu gan aelodau'r grwp.

Disgrifiad cryno

Gellir rhannu'r sgiliau a gyflwynir i'r rhai sydd yn ymwneud a iaith ac arddull, a'r rhai mwy cyffredinol newyddiadurol sydd ambell waith yn gorgyffwrdd a meysydd dylunio a thechnoleg.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd y myfyrwyr yn cael cyfle helaeth i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu, yn ysgrifenedig ac ar lafar. Trwy gydol y modiwl, bydd ymarferion dadansoddi testunau newyddiadurol o ran ieithwedd a chywair, a bydd gofyn i'r myfyrwyr cymhwyso'n ymarferol, trwy eu gwaith portffolio, yr hyn maen nhw wedi'i ddysgu. Bydd pwyslais hefyd ar dechnegau cyfweld, sy'n gofyn am safon uchel o sgiliau cyfathrebu, a bydd gofyn i'r myfyrwyr gyfathrebu'n effeithiol ag unigolion y tu fas i'r brifysgol wrth baratoi'r portffolio.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd y modiwl yn cyflwyno nifer o sgiliau ymarferol a all fod yn ddefnyddiol mewn gyrfa newyddiadurol, ac mi ddylai galluogi i'r myfyrwyr ddatblygu ymwybyddiaeth o'u medrau a chryfderau personol yng nghyswllt gyrfa, neu astudiaeth pellach, yn y maes.
Datrys Problemau Mae pwyslais y modiwl hwn ar sgiliau ymarferol, felly mi fydd cyfle i'r myfyrwyr cynnig atebion i broblemau sy'n codi'n ddamcanieithol yn ystod y trafodaethau yn y seminarau, a gwerthuso manteision ac anfanteision posib. Wrth ddefnyddio sgiliau ymarferol i baratoi'r darnau ar gyfer y poerffolio, bydd gofyn i'r myfyrwyr ddatblygu meddylfryd creadigol at ddatrys problemau.
Gwaith Tim Bydd rhywfaint o waith grwp yn codi o fewn y seminarau, ond ni chaiff y medrau hyn eu hasesu'n uniongyrchol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd cyfle i fyfyrwyr wella'u perfformiad o fewn cyd-destun y darlithiau a'r seminarau - cyfrannu'n fwy effeithiol i'r trafodaethau, paratoi'n well at yr ymarferion ysgrifennu ac ati. Bydd y gwaith ymarferol yn y seminarau yn caniatau i'r myfyrwyr fesur a gwella'u perfformiad, ond ni fydd y medrau hyn yn cael eu hasesu'n uniongyrchol.
Rhifedd Ni fydd pwyslais ar ddehongli gwybodaeth fathemategol nac ystadegol yn y modiwl hwn.
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Bydd sgiliau ymchwil yn elfen anhepgor o'r modiwl wrth i'r myfyrwyr paratoi eu portffolio - yn ymchwil i ffynonellau newyddion, unigolion i'w cyfweld, lluniau ac ati. Bydd angen i'r myfyrwyr fynd ati i gynllunio a chyflawni ymchwil ymarferol, a defnyddio canlyniadau'r ymchwil i gynhyrchu darnau o waith newyddiadurol.
Technoleg Gwybodaeth O ran gwneud gwaith ymchwil newyddiadurol a darllen cefndirol arlein, ac o ran cyflwyno gwaith ysgrifenedig drwy ddefnyddio prosesu geiriau, bydd y myfyrwyr yn defnyddio medrau technoleg gwybodaeth. Wrth baratoi eu portffolio , bydd angen i'r myfyrwyr gyfathrebu ag unigoloion a sefydliadau allanol, mwy na thebyg srwy e-bost.

Rhestr Ddarllen

Dylid Ei Brynu
Williams, Cen (1999) Cymraeg Clir: Canllawiau Iaith Chwilio Primo
Testun A Argymhellwyd
Berry, John (Ed) (2003) Contemporary Newspaper Design Mark Batty Publisher Chwilio Primo Biagi, S. (1986) Interviews That Work: A Practical Guide for Journalists Wadsworth Chwilio Primo De Burgh, Hugo (2000) Investigative Journalism: Context and Structure Routledge Chwilio Primo Frost, Chris (2001) Reporting for Journalists Routledge Chwilio Primo Hennessy, B. (1996) Writing Feature Articles Butterwurth and Heinemann Chwilio Primo Herbert, J. (2000) Journalism in the Digital Age: Theory and Practice for Broadcast, Print and Online Media Focal Press Chwilio Primo Hicks, Wynford and Holmes, Tim (2002) Subediting for Journalists Routledge Chwilio Primo Hicks, Wynford; Adams, Sally and Gilbert, Harriett (1999) Writing for Journalism Routledge Chwilio Primo Keeble, Richard (Ed) (2001) The Newspapers Handbook Routledge Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5