| Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
|---|---|
| Darlithoedd | 10 |
| Seminarau / Tiwtorialau | 10 |
| Eraill | Gwylio a Thasgau 10 awr |
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Traethawd 2,500 o eiriau. Disgwylir y Traethawd Cyntaf i mewn am 12.00 (hanner dydd) Dydd Llun, 17 Tachwedd 2008. | 50% |
| Asesiad Semester | Traethawd 2,500 o eiriau. Disgwylir yr Ail Draethawd i mewn am 12.00 (hanner dydd) Dydd Iau, 8fed o Ionawr 2009. | 50% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Erbyn cwblhau'r modiwl yma, dylai'r myfyriwr fedru cyflawni'r canlynol:
Trin a thrafod y prif ddadlueon a theoriau yn y maes.
Defnyddio fframwaith beirniadol i ddehongli y byd teledu.
Gweld cyd-destun teledu yn y gymdeithas a'r byd masnachol.
Amcan y modiwl yw cyflwyno rhai o'r dadleuon allweddol a theoriau traddodiadol yn y maes dadansoddi teledu. Bydd fframwaith yn cael ei adeiladu yn ystod y modiwl i ddangos sut mae teledu yn gweithio fel ffenomenon ddiwylliannol a masnachol ac i godi cwestiynau ynglyn a dehongli a beirniadu'r byd teledu.
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6