Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | Darlith/Seminar |
Eraill | Sesiwn wylio 1 x 3 awr (uchafswm) yr wythnos |
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Ailgyflwynor elfenau a fethwyd (dewis o deitlau newydd) | |
Asesiad Semester | Traethawd 1. 2,000 o eiriau | 40% |
Asesiad Semester | Traethawd 2. 3,000 o eiriau | 60% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
Ers yr 1970au dadansoddwyd ffilmiau mewn perthynas a genre. Fe fydd y modiwl yn cynnig archwiliad dwfn o un genre arbennig (gall newid yn flynyddol), ac yn olrhain ei datblygiad dros gyfnod o amser, trwy astudiaeth o enghreifftiau 'Hollywoodaidd' a 'byd eang' o'r genre hynny. Mae gan bob un o'r 'prif genres' ystod eang o theoriau yn perthyn iddynt eisoes, a cheir yn ogystal theoriau mwy cyffredinol sy'n canolbwyntio ar yr astudiaeth o ffilmiau genre. Fe fydd y modiwl hwn yn cyflwyno'r theoriau a'r disgyrsiau hynny i'r myfyrwyr. Pa bynnag genre a ddewisir ei ddadansoddi, fe fydd y modiwl yn ffocysu ar y prif fudiadau artistig sydd wedi dylanwadu'r genre, y testunau allweddol, a'r disgyrsiau dominyddol a ddefnyddir i archwilio'r testunau hynny. Enghreifftiau o genres posib yw ffilmiau arswyd, 'Westerns', sioeau cerdd, ffilm noir, ffilmiau 'gangster'.
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6