Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 2 Awr | 60% |
Asesiad Semester | Traethawd 2500 o eiriau Traethodau: | 40% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Erbyn cwblhau`r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/wraig sy`n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni`r canlynol:
Dangos gwerthfawrogiad o`r amryw fathau o ddramau a gynhyrchir ar gyfer y sgrin fach.
Gwerthuso`r disgwrs beirniadol sy`n bodoli mewn perthynas a drama deledu.
Mae`r modiwl hwn yn adeiladu ar y dull a ddefnyddiwyd yn y modiwl Rhan 1 sy`n dadansoddi teledu. Bydd y modiwl yn dadansoddi patrymau fframwaith a phatrymau ysgrifennu ar gyfer y teledu. O gymharu a`r modiwl Rhan 1, mae`r prif ddatblygiad yn y cwrs i`w weld nid yn unig yn ansawdd y dadansoddi sydd ei eisiau, ond yn bwysicach, yn y sylw llawer mwy cynhwysfawr sydd ar awduron megis Potter, Bleasdale a LaPlante.
Nod y modiwl hwn yw astudio hanes a datblygiad drama deledu yng ngwledydd Prydain, Ewrop a`r Unol Daleithiau. Fe fydd y modiwl yn ystyried cwestiynau ynglyn ag awduraeth, syniadaeth, safon a`r gwahaniaethau rhwng naturiolaeth a gwrth-naturiolaeth.
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6