Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Traethawd 2,500 o eiriau | 50% |
Asesiad Semester | Portffolio 2,500 o eiriau | 50% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Sut gellir dadansoddi'r berthynas rhwng iaith a chyfryngau? Beth yw'r syniadaethau sydd yn cysylltu iaith, cyfryngau a chymdeithas? Pa fath o swyddogaethau ieithyddol sydd gan y cyfryngau yma yng Nghymru, ac mewn cymdeithasau eraill? Pa ieithweddau mae'r cyfryngau print, darlledu ac electronig yn eu defnyddio, a pha ddulliau y dylid eu defnyddio wrth geisio dadansoddi'r rhain yn feirniadol? Beth yw'r oblygiadau ieithyddol, cymdeithasegol, gwleidyddol ac economaidd i ieithoedd nad ydynt yn meddu ar gyfryngau darlledu, print neu electronig? A ddylai cyfryngau weithredu yn yr iaith neu dros yr iaith ac a oes modd tynnu llinell rhwng y ddau gysyniad? Pa fath o fodelau sydd yn bodoli yma yng Nghymru, a beth a welwn drwy astudio gwledydd eraill a thrwy edrych i'r dyfodol?
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6