Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Paratoi dwy sgript radio fer gan ddefnyddio deunydd ymchwil wedii ddarparu gan y tiwtor. Ar gyfer y darn cyntaf, bydd angen ysgrifennu am gyfansoddwr penodol ar gyfer rhaglen o gerddoriaeth glasurol wedii recordio ai darlledu ar orsaf radio fasnachol. Ni ddylai fod yn hwy na 50. Anelir yr ail sgript at strand dyddiol byw ar un o rwydweithiaur BBC. Yr hyd fydd 30. Dylid recordior ddwy sgript ar CD, gyda chopi or sgript ar A4 | 30% |
Asesiad Semester | Dangos sgiliau unigol recordio sain a golygu digidol trwy gynhyrchu pecyn syn cynnwys cyfweliadau ar leoliad, sgriptio a lleisio, golygu gydag effeithiau sain neu gerddoriaeth, a darn llais wediu recordio mewn stiwdio neu weithdy sain. Ni ddylair pecyn radio fod yn hwy na 3. Caiff y myfyriwr ddewis yr orsaf radio ar amser darlledu tebygol. Dylid cyflwynor pecyn ar CD. | 50% |
Asesiad Semester | Dadansoddiad beirniadol or pecyn radio, yn cyfiawnhaur strwythur, yr iaith, yr arddull ar lleisio. (2000 o eiriau) | 20% |
Asesiad Ailsefyll | Bydd unrhyw aseiniadau ail-sefyll yn dilyn yr un strwythur. |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Defnyddio offer cynhyrchu radio at safon ddarlledu ddisgwyliedig.
2. Defnyddio technegau creadigol y diwydiant radio i ddatblygu eu cynhyrchiadau eu hunain yn effeithlon.
3. Datblygu'r gallu i werthuso eu gwaith eu hunain a gwaith eu cyd-fyfyrwyr.
I ganiatau i fyfyrwyr ddatblygu'r sgiliau technegol sylfaenol sydd eu hangen ar gyfer cynhyrchu radio. Adeiladir ar hyn yn ystod yr ail a'r trydydd semester.
Fe fydd y modiwl hwn yn gofyn i fyfyrwyr gyrraedd lefel addas o arbenigedd technegol fel eu bod yn gallu cwrdd a'r holl elfennau cynhyrchu craidd sydd eu hangen ar gyfer y cynllun gradd. Bydd hefyd yn cyflwyno i fyfyrwyr y sgiliau ysgrifennu sy'n angenrheidol ar gyfer mynegiant clir ar y radio.
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Datblygir sgiliau cyfathrebu trwy gysylltu gyda chyfranwyr a chyfathrebu gyda'r gwrandawr. Caiff sgiliau ysgrifennu - ac ysgrifennu ar gyfer y glust - eu datblygu a'u hasesu hefyd. |
Datrys Problemau | Bydd myfyrwyr yn dysgu syt i ddefnyddio offer technegol ac fe ddaw llwyddiant trwy ddangos eu bod yn gallu datrys problemau yn annibynnol ar leoliad. |
Gwaith Tim | Bydd angen cydlynu a chydweithio gydag eraill er mwyn cwblhau'r dasg. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Mae gwella'u dysgu a'u perfformiad yn elfen graidd o'r modiwl hwn. Caiff ei werthuso yn ystod y modiwl a'i asesu yn yr aseiniad ar ddiwedd y semester |
Rhifedd | Bydd elfen ymarferol y modiwl yn dangos a oes gan fyfyriwr fwy o ddawn ar gyfer ochr dechnegol neu ochr artistig cynhyrchu radio. Bydd elfen ymarferol y modiwl yn dangos a oes gan fyfyriwr fwy o ddawn ar gyfer ochr dechnegol neu ochr artistig cynhyrchu radio. |
Technoleg Gwybodaeth | Mae hyn yn rhan annatod o'r holl sgiliau technegol a gynigir. |
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7